Prifysgol De Cymru ydym ni

Prifysgol De Cymru, a gafodd ei ffurfio drwy uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd, fydd un o’r rhai mwyaf yn y DU, a bydd yn cynnig mwy o gyfleoedd a gwell gobeithion i fyfyrwyr. Byddant yn mwynhau’r holl fanteision sy’n gysylltiedig â chyrsiau, cyfleusterau a chefnogaeth ardderchog, yn ogystal ag enw da fel prifysgol bwysig ar gyfer swyddi a chyflogwyr.


This short film provides an introduction to the University from its vice chancellor, Professor Julie Lydon.

Pam astudio ym Mhrifysgol De Cymru?

Eich Gyrfa yn y Dyfodol

Caiff ein cyrsiau eu dylunio mewn cydweithrediad â chyflogwyr. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau yn cynnig cyfleodd i ennill profiad gwaith ac rydym yn cynnal darlithoedd allgyrsiol a gweithdai i’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth.

A fyddaf yn cael swydd?

Addysgu o safon fyd-eang

Byddwch yn cael eich dysgu gan academyddion blaenllaw yn eu maes. Mae beirdd adnabyddus, seicolegwyr Olympaidd a Llysgennad Gofod ESA ymysg ein staff.

Pa mor dda yw’r athrawon?

Cefnogaeth ragorol

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn cael cyngor a chefnogaeth gyfeillgar gan ein tîm cymorth myfyrwyr hynod broffesiynol. Dyfarnwyd Gwobr Uwch y Times i ni’n ddiweddar am Gymorth Eithriadol i Fyfyrwyr.

Sut y byddwch yn fy nghefnogi?

Lleoliad

Bydd y Brifysgol, sy’n cwmpasu prif ddinasoedd de-ddwyrain Cymru, yn cynnig bywyd y ddinas a bywyd myfyriwr o fewn tafliad carreg i fynyddoedd, traethau a diwylliant prif ddinas.

Ble’r ydym ni?

Beth alla i astudio?

Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ar bob lefel, o astudiaethau sylfaen, i raddau i israddedigion a chymwysterau ôl-radd hyd lefel doethuriaeth.

Mae amrywiaeth eang o bynciau ar gael gennym, mewn pum campws ym Mhontypridd, Caerdydd a Chasnewydd. Unwaith i chi ddod o hyd i gwrs, gallwch archebu eich lle ar ddiwrnod agored or gwnewch gais nawr.

Bywyd myfyriwr

Mae mwy i fywyd nag astudio. Darllenwch am sut i wneud y gorau o’ch amser yn y Brifysgol a sut i gael rhagor o wybodaeth ynghylch dod i hyd i le i fyw ac ariannu eich astudiaethau.

Dilynwch ein Llysgenhadon USWInsight

Mae ein Llysgenhadon USW Insight yn blogio, yn trydar ac yn cadw cofnod Facebook o’u bywydau yn y Brifysgol. Maent yn trafod eu gwaith academaidd, eu bywydau cymdeithasol ac yn cynnig awgrymiadau ar gyfer pob math o bynciau o chwilio am waith rhan amser i adael cartref am y tro cyntaf.

Gweld yr hyn maen nhw’n ei wneud

Image of students in halls

Ymchwil

Mae Prifysgol De Cymru yn meithrin diwylliant ymchwil bywiog sydd wrth wraidd holl weithgareddau eraill y sefydliad.

Mae Prifysgol De Cymru yn ymroi i:

Gweithio gyda ni

Mae Prifysgol De Cymru yn gweithio gyda busnesau, llywodraeth a sefydliadau eraill mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig: