Cipolwg ar ein Parc Chwaraeon newydd

Myfyrwyr sy'n dechrau ym Mharc Chwaraeon USW yn 2017 fydd y myfyrwyr cyntaf i ddefnyddio cyfleusterau newydd sbon Prifysgol De Cymru.

O ganlyniad i fuddsoddiad parhaus, bydd gennym canolfan arbenigol ar gyfer cryfder a chyflyru gyda 12 o blatfformau codi, fydd yn darparu amgylchedd perfformiad uchel ar gyfer athletwyr y dyfodol.

Bydd gennym gyfleuster a ddylunir yn benodol ar gyfer perfformiad chwaraeon, yn canolbwyntio yn benodol ar hyfforddi rygbi a phêl droed.

Ein cae pêl droed dan do maint llawn 4G fydd yr unig un yng Nghymru ac un o dim ond 5 yn y DU. Bydd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi trwy gydol y flwyddyn, ac yn adnodd rhagorol ar gyfer myfyrwyr rygbi, pêl droed ac hyfforddi.

www.southwales.ac.uk/sport