/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/47-executive-team/profile-executive-team-louise-bright-4702.jpg)
Mae Dr Louise Bright yn Ddirprwy Is-Ganghellor dros Fenter, Ymgysylltu a Phartneriaethau ym Mhrifysgol De Cymru.
Ymunodd Louise â Phrifysgol Morgannwg am y tro cyntaf fel Rheolwr Ymchwil ac mae wedi dal rolau amrywiol gan gynnwys Pennaeth y Swyddfa Ymchwil a Chyfarwyddwr Ymchwil ac Ymgysylltu Busnes.
Tra ar secondiad i Lywodraeth Cymru yn flaenorol, cynhaliodd Louise astudiaeth ar sut y gallai'r Llywodraeth weithio gyda phrifysgolion Cymru i gynyddu lefelau incwm Cynghorau Ymchwil. Roedd canlyniadau'r astudiaeth yn sail i adroddiad a gymeradwywyd gan Weinidog gyda goblygiadau polisi. Yn ystod ei secondiad bu hefyd yn gyfrifol am ddrafftio cynnig i sefydlu Academi Wyddoniaeth Genedlaethol i Gymru. Cymeradwywyd hyn ac aeth Louise ymlaen i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar sail ymgynghori gan gynnwys prosiectau ar gyflawni’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol a Pholisi Arloesedd Llywodraeth Cymru.
Bu Louise hefyd yn Gyfarwyddwr Cyswllt y Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch gyda chyfrifoldeb dros Gymru. Adeiladodd y rôl hon ar ei phrofiad o ddatblygu myfyrwyr ymchwil ac academyddion i ddod yn ymchwilwyr effeithiol. Mae Louise yn aelod o Banel Rhagoriaeth Ymchwil Adnoddau Dynol y DU, Bwrdd Ecwiti mewn STEM Llywodraeth Cymru ac roedd yn aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen Prif Gynghorydd Gwyddoniaeth Cymru a lywiodd adroddiad ar fenywod mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Meddygaeth yng Nghymru. . Mae Louise hefyd yn arwain Rhwydwaith Menywod mewn STEM Cymru.
Cyn symud i faes rheoli, canolbwyntiodd ei hymchwil ar rewi oocytau gan gleifion y mae cemotherapi neu radiotherapi yn bygwth eu ffrwythlondeb. Yn dilyn ei PhD, llwyddodd i sefydlu grŵp newydd, a ariennir yn allanol, a archwiliodd pathogenesis endometriosis.