/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/11-campus-exterior-shots/campus-exterior-treforest-business-school-49782.jpg)
Ymgymerodd Paula â rôl Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio, Perfformiad a Thrawsnewid ym mis Ionawr 2025.
Ymunodd Paula â Phrifysgol Morgannwg am y tro cyntaf yn 1993, ar ôl cwblhau ei gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid, fel rhan o raddedigion cyntaf y brifysgol newydd. Mae Paula wedi gweithio mewn nifer o rolau gan gynnwys gweinyddiaeth myfyrwyr, sicrhau ansawdd ac amrywiaeth o rolau yn y gyfadran gan gyfuno â’i rôl fel Pennaeth Gweinyddol (Prif Swyddog Gweithredu’r Gyfadran bellach) a ymgymerodd â hi rhwng 2006 a 2012. Yn 2012 symudodd i rôl Cyfarwyddwr Twf Myfyrwyr a bu’n rheolwr prosiect ar gyfer integreiddio’r Brifysgol newydd, Prifysgol De Cymru, gan arwain nifer o brosiectau yn ystod blynyddoedd cyntaf sefydlu'r brifysgol.
Datblygodd rôl Paula yn Gyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad gyda Thrawsnewid ac Ymestyn yn Ehangach yn cael ei ychwanegu at ei phortffolio yn gynnar yn 2022.
Mae gan Paula amrywiaeth o rolau allanol gan gynnwys Cyd-gadeirydd Grŵp Cynllunwyr Cymru, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cymdeithas Cynllunwyr Strategol Addysg Uwch (HESPA), Aelod o Grŵp Data HESPA (HEDIG) a Chadeirydd Grŵp Diddordeb Arbennig HESPA ar gyfer Rheoli Llwyth Gwaith.