/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/47-executive-team/profile-executive-team-rachel-elias-lee-w4606.jpg)
Dechreuodd Rachel yn swydd Prif Swyddog Cyllid PDC yn 2022 a daeth yn Brif Swyddog Cyllid a Gweithredu ym mis Ionawr 2025.
Ailymunodd Rachel Elias-Lee â PDC yn 2018 fel Prif Swyddog Gweithredu’r Gyfadran Busnes a Chymdeithas gynt, cyn cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Trawsnewid, lle bu’n gyrru ymagwedd PDC tuag at reoli newid strategol ac yn arwain yn weithredol ar ymateb Trefn Reoli Aur gychwynnol y Brifysgol i bandemig Covid. Dechreuodd Rachel yn swydd Prif Swyddog Cyllid PDC yn 2022, ac mae’n darparu goruchwyliaeth ariannol ar draws Grŵp PDC.
Cyn ailymuno â PDC, Rachel oedd Cyfarwyddwr Cyllid CBAC Cyf (o 2014 ymlaen), lle bu’n arwain y grŵp drwy ddiwygiad pynciol Cymru/Lloegr 2015, i gadw statws sefydliad dyfarnu a gweithredu gwelliannau sylweddol o ran system, cynllunio ac archwilio ar y daith. Cyn hyn, roedd Rachel yn Ddirprwy Bennaeth Adnoddau (ac yn Gyfarwyddwr Ardal Ddysgu Merthyr) yng Ngholeg Merthyr Tudful (2009 - 2013), sy’n gwmni yng ngrŵp PDC, lle bu’n goruchwylio’r rhaglen newid flaenllaw a chlodwiw werth £33 miliwn, i drawsnewid addysg ôl-16 yn ardal Merthyr Tudful/Blaenau’r Cymoedd.
Mae Rachel yn gymrawd proffesiynol cymwysedig Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, ac mae’n cynghori ar sawl bwrdd allanol a phaneli ar strategaeth ariannol a thrawsnewid busnes.