/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Ymunodd Zoe Durrant â PDC ym mis Ionawr 2023 fel Prif Swyddog Pobl a Chynhwysiant.
Cyn dechrau yn ei swydd bu Zoe yn gweithio i Heddlu Swydd Gaerloyw fel Prif Swyddog yn gyfrifol am Wasanaethau Corfforaethol gan gynnwys Adnoddau Dynol, TGCh, Trawsnewid, a Pherfformiad a Chynllunio.
Cyn ei rôl gyda Heddlu Swydd Gaerloyw, bu Zoe yn gweithio mewn amrywiaeth o uwch rolau arwain i Heddlu Wiltshire. Cafodd ei dewis ar gyfer, a mynychodd, y cwrs rheoli uwch blismona yn 2014 gan fynd ymlaen i fod yn Brif Swyddog yn Heddlu Wiltshire gyda chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol, Safonau Proffesiynol, a nifer o swyddogaethau corfforaethol.
Treuliodd Zoe ran gynnar ei gyrfa yn y sector preifat ym maes TG ac Ymgynghoriaeth Rheoli gyda ffocws ar uno a gwaith caffael, a oedd yn cynnwys rolau arweinyddiaeth AD rhyngwladol a secondiad i'r Unol Daleithiau.
Drwy gydol ei gyrfa mae Zoe wedi bod â diddordeb arbennig mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chreu diwylliant ac arferion gwaith cynhwysol.