Cyflwyniadau a Gweithdai

Mae tîm Prifysgol De Cymru o arbenigwyr arobryn yn gweithio gydag ysgolion a cholegau ledled y DU i ddarparu gweithdai rhyngweithiol sydd â'r nod o roi gwybodaeth i fyfyrwyr am addysg uwch, a'u cefnogi wrth iddyn nhw bontio i'r brifysgol.

Gweld ein sesiynau Cysylltwch â ni
Student at STEM innovation day

Mae ein gweithdai yn rhad ac am ddim ac ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Mae ein sgyrsiau a'n gweithdai’n gallu cael eu darparu ar-lein ac ar adeg sy'n gyfleus i chi.


Ein sesiynau

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol

Mae'r sesiwn ryngweithiol hon yn ateb tri chwestiwn sylfaenol: 

  • Yw prifysgol yn werth chweil?
  • Yw prifysgol yn gyraeddadwy?
  • Yw prifysgol yn fforddiadwy?

Bydd y sesiwn yn tynnu sylw at y gwahanol ddulliau o ymchwilio a darganfod y brifysgol gywir a'r cwrs cywir. 

Bydd y sesiwn yn annog myfyrwyr i ystyried sut gallan nhw gael y budd gorau o ddiwrnodau agored a chynulliadau addysg uwch hefyd.

Bydd y sesiwn yn eich galluogi i gyflawni Meincnodau Gatsby 1, 2, 3, 4 a 7. 

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 neu fyfyrwyr cyfatebol

Ar gael ar y campws yn PDC neu yn eich ysgol/coleg, bydd ein staff profiadol yn arwain eich myfyrwyr drwy broses ymgeisio ar-lein UCAS. 

Sylwer os hoffech chi drefnu'r sesiwn hon yn eich ysgol/coleg, bydd angen i bob myfyriwr gael mynediad at gyfrifiadur personol.

Bydd y sesiwn yn eich galluogi i gyflawni Meincnodau Gatsby 3 a 7. 

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol

Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau pwrpasol yn benodol ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n gwneud cais am gyrsiau nyrsio a bydwreigiaeth. 

O ysgrifennu'r datganiad personol, i baratoi ar gyfer cyfweliad, bydd ein tîm o arbenigwyr yn darparu cyngor ac arweiniad diduedd i gynorthwyo myfyrwyr drwy'r broses ymgeisio. 

Sylwer bod angen o leiaf 10 o fyfyrwyr ar gyfer y sesiynau. 

Bydd y sesiwn yn eich galluogi i gyflawni Meincnodau Gatsby 3, 4 a 7. 

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol

Drwy weithgareddau chwarae rôl ac enghreifftiau o fywyd go iawn, nod y sesiwn hon yw paratoi myfyrwyr i greu argraff yn eu cyfweliadau addysg uwch a'u cyfweliadau am swyddi. 

Bydd y sesiwn yn eich galluogi i gyflawni Meincnodau Gatsby 2, 3, 5 a 7.   

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol

Sesiwn ar gael i rieni/gwarcheidwaid hefyd

Mae'r sesiwn hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr nodi math a swm y cymorth ariannol y gallen nhw ei gael, yn ogystal â mynd i'r afael ag unrhyw bryderon ariannol sydd ganddyn nhw.

Bydd y sesiwn yn eich galluogi i gyflawni Meincnodau Gatsby 2, 3 a 7. 

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi set o sgiliau i fyfyrwyr sy'n hanfodol ar gyfer astudio lefel 3 a thu hwnt. 

Yn ystod y gweithdy, bydd myfyrwyr yn ystyried amrywiaeth eang o sgiliau astudio, gan gynnwys:

  • Darllen ac ysgrifennu effeithiol
  • Technegau adolygu
  • Deall cyfeirio a llên-ladrad
  • Rheoli amser

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol

Yn y sesiwn hon gall myfyrwyr ddarganfod sut gallan nhw ennill gradd, cael 5 mlynedd o brofiad gwaith a dim dyled myfyrwyr drwy ein rhaglen radd noddedig. 

Gyda graddau mewn Cyfrifeg, Busnes, Cyfrifiadura, Peirianneg, y Gyfraith a Thirfesur, gall myfyrwyr gymhwyso eu gwybodaeth academaidd i waith go iawn mewn cwmni.

Mae'r sesiwn oddeutu 30 munud o hyd. Rydyn ni'n gallu mynychu Nosweithiau Rhieni, Nosweithiau Agored a Ffeiriau Gyrfaoedd a gynhelir gan eich ysgol neu goleg hefyd. 

Bydd y sesiwn yn eich galluogi i gyflawni Meincnodau Gatsby 2, 3, 5 a 7. 

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol

Sesiwn ar gael i rieni/gwarcheidwaid hefyd

O gofrestru a dewis cwrs i ddiwrnod y canlyniadau a chlirio, mae'r sesiwn hon yn mynd â myfyrwyr drwy'r broses UCAS lawn ac yn dangos sut gall myfyrwyr wneud y gorau o'u cais UCAS.

Bydd y sesiwn yn eich galluogi i gyflawni Meincnodau Gatsby 1 a 7. 

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol

Gall y sesiwn hon amrywio o fod yn ganllaw defnyddiol byr i weithdy ymarferol awr o hyd. Bydd pob sesiwn yn helpu myfyrwyr i ddeall yr hyn mae prifysgolion yn chwilio amdano, sut i gyflwyno eu hunain yn y ffordd orau posibl a sut i ganfod y cymhelliant i ‘gyflawni’. 

Bydd y sesiwn yn eich galluogi i gyflawni Meincnodau Gatsby 3 a 7. 

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol

Gyda 60 a mwy o gyrsiau’n cael eu cynnal yn ein pum coleg partner lleol ledled De Cymru, gallwn gynghori myfyrwyr ar fanteision astudio cymhwyster PDC yn eu coleg AB lleol.

Bydd y sesiwn yn eich galluogi i gyflawni Meincnodau Gatsby 2, 3 a 7. 

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol

I lawer o fyfyrwyr, gall symud o'r ysgol neu'r coleg i'r brifysgol fod yn gam anodd. Cyflwynir y sesiwn gan Lysgennad Myfyrwyr PDC neu berson graddedig diweddar, a nod y sesiwn yw mynd â myfyrwyr ar daith drwy fywyd prifysgol, gan roi nifer o awgrymiadau gwerthfawr iddyn nhw i'w helpu i ymdopi, a rhoi blas ar fywyd myfyriwr. 

Bydd y sesiwn yn eich galluogi i gyflawni Meincnodau Gatsby 3 a 7.

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol

Trafodaeth ryngweithiol sy'n cynnig strategaethau i ddysgwyr er mwyn sicrhau llesiant cadarnhaol.

Gallwch fynd i'n tudalen Lles i Bawb hefyd am ffynonellau cymorth ychwanegol.

Dyddiad: ar gais

Addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu fyfyrwyr cyfatebol

Sesiwn ar gael i rieni/gwarcheidwaid hefyd

Mae dyfodol cyflogaeth yn newid. Drwy’r sesiwn hon rydym yn cynnig cipolwg ar sut mae'r byd gwaith yn esblygu, a sut mae addysg uwch yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi'r dyfodol.

Bydd y sesiwn yn eich galluogi i gyflawni Meincnodau Gatsby 2, 3, 4 a 7. 

“RYDW I NEWYDD DDOD ALLAN O'R DOSBARTH, AC MAEN NHW'N LLAWN BWRLWM, ROEDDEN NHW I GYD YN DWEUD PA MOR DDEFNYDDIOL OEDD E A PHA MOR GENERIG FYDDAI EU DATGANIADAU WEDI BOD PE NA BAEN NHW WEDI CAEL EICH MEWNBWN CHI HEDDIW. DIOLCH AM YMUNO Â NI AC AM RANNU.”

Darlithydd

Coleg Gwent

Gallwn ni deilwra sesiynau i ddiwallu anghenion eich myfyrwyr. Os oes gennych chi ofynion penodol neu os hoffech chi drefnu rhaglen bwrpasol sy'n addas i chi a'ch myfyrwyr, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni