Gweithgareddau pwnc

Gydag ystod eang o sesiynau rhyngweithiol i ddewis o'u plith ar hyd pob Cyfadran, mae ein gweithgareddau a digwyddiadau pwnc-benodol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael cipolwg go iawn ar astudio pwnc yn y brifysgol.

Tîm Cyswllt Ysgolion a Cholegau Amdanom Ni
Two school students smile while chatting with books in an engineering workshop near a robotic arm

Gallwn ni ddarparu ein digwyddiadau pwnc penodol yn bersonol ac yn rhithwir drwy Microsoft Teams neu ar blatfform o'ch dewis.


Three school pupils dressed in white laboratory coats discuss an ongoing experiment and their notes in a science workshop

Dewiswch o blith sesiynau sy'n cynorthwyo darpariaeth cymwysterau Lefel 3, sy'n cyfoethogi profiad eich myfyrwyr ac sy'n cynnig blas ar lwybrau dilyniant yn y brifysgol.

Mae pob sesiwn yn cyd-fynd â meysydd dysgu a phrofiad y Cwricwlwm i Gymru. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar y tudalennau isod neu cysylltwch â'r Tîm Recriwtio Myfyrwyr drwy e-bost.