CYMDEITHASEG
Mae ein gweithgareddau a digwyddiadau pwnc-benodol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael cipolwg go iawn ar astudio pwnc yn y brifysgol.
Gweithgareddau pwnc Ysgolion a Colegau/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/sociology/subject-sociology-student-paige-thomas-36688.jpg)
Sgyrsiau a Gweithdai
Yn fyd-eang, rydyn ni'n fwy diogel nag yr oeddem ni ganrif yn ôl. Boed hynny o ran rhyfel, damweiniau diwydiannol neu hyd yn oed afiechydon. Ac eto, heddiw, rydyn ni'n wynebu risgiau sydd â'r potensial i fod yn broblemau i'r byd i gyd. Beth yw natur y risgiau newydd sy'n ein hwynebu heddiw? Sut ddylai cymdeithasau heddiw ymateb? Mae lledaeniad y coronafeirws yn enghraifft o'r ansicrwydd a fydd yn rhan o'n bywydau. Nid dyma'r her olaf y byddwn ni'n ei hwynebu'n fyd-eang.
Fe wnaeth y rhain newid gyda dyfodiad Covid-19, gan gynnwys y bwydydd sydd ar gael, neu'n hytrach diffyg y bwydydd hynny. Mae'r sesiwn hon yn edrych ar dri maes allweddol: sut mae bygythiadau i iechyd y cyhoedd yn effeithio ar y ffyrdd rydyn ni'n cynhyrchu ac yn defnyddio bwyd; bregusrwydd ein prif gyflenwyr bwyd i amhariadau sydyn; ac, yn olaf, pwy allai fod â'r cyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch bwyd domestig.
Y camau unigol a wnaethoch chi bore yma wrth fynd i’r ysgol (meddyliwch am sut wnaethoch chi godi, beth wnaethoch chi yn syth wedyn, beth wnaethoch chi ddewis ei wisgo, bwyta, sut wnaethoch chi gyrraedd yma, a pham ddaethoch chi yma yn y lle cyntaf ac ati). Yna trafodwch i ba raddau rydych chi'n meddwl bod y gweithredoedd hyn (a) wedi'u llywio gan 'normau cymdeithasol' a 'gwerthoedd cymdeithasol' a ddysgwyd (h.y. mathau o ymddygiad a wnawn oherwydd bod y rhan fwyaf o bobl eraill yn ein cymdeithas neu ein diwylliant yn eu gwneud), neu (b) ein gwir ddewisiadau rhydd roedden ni fel unigolion yn gallu eu gwneud, yn rhydd o'r 'normau cymdeithasol' a'r 'gwerthoedd cymdeithasol' hyn’?
Mae astudio dangosiadau sinema’n cynnig cipolwg diddorol ar y berthynas unigryw rhwng y ddelwedd symudol a’i chynulleidfaoedd. Bydd y sgwrs ddarluniadol hon, sy’n addas i fyfyrwyr sy’n astudio amrywiaeth eang o bynciau - gan gynnwys Ffilm a’r Cyfryngau, Saesneg, Hanes a Chymdeithaseg - yn ymchwilio i’r ffordd y mae ein profiad o’r sinema wedi datblygu o ddull ‘gwylio drwy dwll y clo’ eithriadol o bersonol cinetosgop Edison i’r profiadau gwirioneddol gymdeithasol, ymdrochol rydyn ni’n eu hadnabod heddiw. Byddwn ni’n profi’r awditoriwm 1,000+ o seddi moethus neu’r ‘palas breuddwydion’, y ‘sinema gyrru i mewn’ a oedd yn boblogaidd gyda phobl ifanc America, y theatr ffilmiau bwrpasol a’r sinema aml-sgrîn (multi-plex). A byddwn ni’n ystyried ai’r sinema ‘dros dro’ gynyddol boblogaidd, sgriniadau safleoedd penodol a’r mudiad ‘sinema agored’ (sydd â’r nod o ymestyn dangosiadau i gymunedau sydd wedi’u heithrio) yw dyfodol dangosiadau sinema annibynnol yn y DU.
Faint o'ch bywyd sy'n cael ei ddiffinio gan yr hyn rydych chi'n ei brynu a'ch hunaniaeth fel defnyddiwr? Mae'r sesiwn hon yn ymwneud â'r ffordd y mae defnyddio wedi disodli cynhyrchu fel y brif ffordd y mae ein cymdeithas yn adnabod ei haelodau. Yn y sesiwn hon, byddwch chi'n ystyried y ffordd y mae defnyddio wedi dod mor gyffredin o ran sut rydyn ni'n deall ein hunain a'n ffordd o fyw, ein cysylltiad â sefydliadau, ein cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a'n bywydau personol.