Ysgolion a Cholegau

MEINCNODAU GATSBY

Mae Prifysgol De Cymru yn awyddus tu hwnt i gefnogi eich ysgol neu goleg gyda mynediad at adnoddau a fydd yn eich helpu i roi cyfarwyddyd gyrfaoedd o safon. Rydyn ni'n ymwybodol bod llawer o ysgolion a cholegau yng Nghymru a phob ysgol a choleg yn Lloegr wedi mabwysiadu Meincnodau Gatsby eisoes ac rydyn ni wedi nodi meincnodau allweddol wrth ochr ein sesiynau i wneud eich rôl yn haws wrth i chi gynllunio eich rhaglen cyfarwyddyd gyrfaoedd.

3 college students sat around a table working with a teacher leaning over to help
student-25

Ein Sesiynau

Hyd yn oed os nad ydych chi'n defnyddio Meincnodau Gatsby, teimlwn ei fod yn rhoi syniad cliriach i chi o'r wybodaeth a'r sgiliau y bydd eich myfyrwyr yn eu hennill wrth ymgysylltu â sesiynau allgymorth Prifysgol De Cymru. Hyd yn oed os nad ydych chi'n defnyddio Meincnodau Gatsby, dyma ffordd dda o ddangos pa wybodaeth a sgiliau bydd eich myfyrwyr yn gwella wrth ymgysylltu â ni.


Meincnodau Gatsby

Drwy adeiladu ein sesiynau i mewn i'ch rhaglen gyrfaoedd ar adegau strategol yn ystod y glwyddyn, gallwch ddarparu cyngor ac arweiniad gyrfaoedd o safon uchel.

Rydym yn brifysgol sy'n cael ei harwain gan gyflogwyr. Hynny yw, mae ein cyrsiau yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy'n adlewyrchu gofynion y farchnad. Darganfyddwch mwy am ein sesiynau 'Gyrfaoedd mewn...' sy'n rhoi manylion am ein cyrsiau, y farchnad llafur, swyddi i raddedigion a chyfleoedd cyfogaeth.

Bydd angen gwybodaeth gyrfaoedd ar wahân i bob disgybl. Rydym yn sicrhau bod cyfleoedd i fyfyrwyr holi ac ateb yn ystod ein sesiynau. Hefyd, mae ein tim ehangu mynediad ar gael i gynnig cymorth eang i'r rheiny sydd ag anghenion ychwanegol, yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Rydym yn cynnal ystod eang o sesiynau pwnc-benodol sy'n rhoi syniad i fyfyrwyr o sut gall cwrs yn y maes hwnnw arwain at yrfa delfrydol. Gallwch edrych ar ein sesiwn 'Gyrfaoedd yn y Diwydiannau Creadigol' fel enghraifft.

Bydd ein rhaglen prentisiaeth gradd Network75 yn gallu cynnig arbenigedd yn y maes yma. Yn ogystal, gallwn ni gynorthwyo gyda ffeiriau gyrfaoedd a ffeiriau Addysg Uwch a rhannu profiadau a syniadau o ran eu cynnal yn ddigidol.

Dylai pob myfyriwr gael siawns i brofi'r gweithle. Bydd hyn yn eu galluogi i arhcwilio llwybrau gyrfa gwahanol ac ehangu eu rhwydwaith. Rydym hefyd yn cynnig cymorth gyda chyfweliadau addysg uwch ac/neu gyflogaeth.

Er nad oes modd eich croesawu i'r campws ar hyn o bryd, mae gennym gynnig digidol eang ar gyfer cymorth ac arweiniad a  pwnc-benodol. Rydym yn defnyddio dulliau ymarferol i sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn gallu ymgysylltu ag addysg uwch.

Rydym yn gallu cynnig cymorth ac arweiniad gyda Datganiadau Personol yn unigol neu mewn grwpiau bach. Dyma gyngor di-duedd a fydd yn helpu myfyrwyr i lunio'r datganiad personol gorau posib. Gall hyn rhoi mwy o amser i chi gynorthwyo'r rheiny sy'n ystyried llwybrau eraill.
Cyflwyniadau a Gweithdai Meincnodau Gatsby (Gatsby Benchmarks)
Pam Addysg Uwch? 2, 7
Dewis cwrs a phrifysgol 1 ,2, 3, 4, 7
Ysgrifennu Datganiad Personol 3, 7
Y broses UCAS 1, 7
Gweithdy Cofrestru ar 'UCAS Apply' 3, 7
Addysg Uwch o fewn y sector Addysg Bellach 2, 3, 7
Ymgeisio i gyrsiau Nyrsio a Bydwreigiaeth 2, 4, 7
Cyllid Myfyrwyr 2, 3, 7
Bywyd Myfyriwr 3, 7
Disgleirio mewn Cyfweliad 2, 3, 5, 7
Paratoi ar gyfer gyrfaoedd y dyfodol 2 ,3, 4, 7
Rhwydwaith75 - Gweithio, ennill cyflog, dysgu 2, 3, 5, 7