Mae’r Tîm Ysgolion a Cholegau yn cynnal cystadleuaeth lle bydd modd i ymholwyr ennill taleb Amazon £50. Bydd un enillydd yn cael ei dynnu o’n cronfa o ymholwyr tuag at ddiwedd bob tymor ysgol, sef cyfanswm o dri enillydd y flwyddyn.

Mae telerau ac amodau yn berthnasol, gweler isod am ragor o fanylion:

  1. Er mwyn i ymholwyr gael eu cynnwys yn y gystadleuaeth hon, rhaid optio i mewn i dderbyn cyfathrebiadau gan Brifysgol De Cymru drwy lenwi’r Ffurflen Microsoft.
  2. Dim ond un wobr sydd ar gael, sef taleb Amazon gwerth £50. Nid oes dewis arall ar gael ar gyfer y wobr.
  3. Mae gan bob ymholwr y dewis i optio allan o’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg drwy e-bostio [email protected].
  4. Bydd yr enillydd nesaf yn cael ei ddewis drwy broses ddethol gyfrifiadurol ar hap Ddydd Mercher cyntaf y misoedd canlynol: Rhagfyr/Ebrill/Gorffennaf.
  5. Bydd yr enillydd yn cael gwybod am ei wobr drwy e-bost (gan ddefnyddio'r manylion a ddarparwyd ar ymholiad) o fewn 7 niwrnod o ddyddiad tynnu. Os nad yw’r enillydd yn ymateb i’r e-bost o fewn 7 niwrnod, bydd y wobr yn cael ei ddirymu a bydd gan y Tîm Ysgolion a Cholegau'r hawl i ddewis enillydd arall.
  6. Mae talebau Amazon yn amodol ar delerau ac amodau, a chyfrifoldeb yr enillydd yw dod yn gyfarwydd â nhw. Er mwyn gwario’r daleb, bydd angen i’r enillydd gael cyfrif Amazon dilys.