Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Bwrsariaeth Dilyniant PDC 2024/2025

Mae'r fwrsariaeth yn werth £1,000 i fyfyrwyr amser llawn a £500 i fyfyrwyr rhan-amser. Byddwch yn derbyn y fwrsariaeth yn eich tymor cyntaf erbyn diwedd Tachwedd 2024.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ffioedd a Chyllid
student-life-study-spaces-cardiff-38848

Cwestiynau Cyffredin

I fod yn gymwys, mae angen i chi fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Wedi llwyddo i gwblhau HND neu radd sylfaen achrededig Prifysgol De Cymru gydag un o'r colegau a restrir isod yn ystod Haf 2024, yn benodol:
    • Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
    • Coleg Caerdydd a'r Fro
    • Coleg Gwent
    • Coleg y Cymoedd
    • Y Coleg, Merthyr Tudful
    • Grŵp NPTC
    • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Wedi gwneud cais am radd anrhydedd israddedig cymwys amser llawn neu ran-amser sy’n dechrau ym mlwyddyn 2** neu 3***, neu radd atodol gymwys am flwyddyn lawn neu ran amser wedi’i lleoli ar gampws Prifysgol De Cymru yn dechrau ym mis Medi 2024 erbyn 1 Gorffennaf 2024
  • Wedi gwneud cais am y fwrsariaeth dilyniant erbyn 1 Awst 2024 
  • Myfyriwr cartref yn y DU sy'n atebol am gyfradd ffioedd dysgu cartref y DU
  • Wedi cofrestru ar gwrs cymwys amser llawn neu ran-amser ar adeg y taliad

**Yn dibynnu ar faes pwnc y radd.

***Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ar y cyd â Choleg Gwent ar gyfer BSc Gwyddor Nyrsio Milfeddygol (atodol) a BSc Iechyd a Lles Anifeiliaid (atodol).

Bydd y broses ymgeisio yn agor o fis Ionawr 2024 ymlaen. Ar ôl i chi wneud cais i fynd i flwyddyn dau** neu dri ar gyfer gradd israddedig gymwys amser llawn neu ran-amser, neu radd atodol gymwys amser llawn neu ran-amser a chael cynnig lle, byddwch yn cael dolen drwy neges e-bost i wneud cais am y fwrsariaeth ar-lein.

Mae campwsau'r Brifysgol fel a ganlyn:

  • Pontypridd (Trefforest, Glyn-taf a Parc Chwaraeon)
  • Caerdydd
  • Casnewydd

Mae'r fwrsariaeth werth £1,000 ar gyfer myfyrwyr amser llawn a £500 ar gyfer myfyrwyr rhan-amser. Byddwch yn derbyn y fwrsariaeth yn eich tymor cyntaf erbyn diwedd mis Tachwedd 2024.

Sylwer: Rhaid i fyfyrwyr cymwys fod mewn sefyllfa academaidd ac ariannol dda gyda'r Brifysgol, e.e. ni chânt fod yn ddyledwr heb gynllun talu.

Bydd y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn rhoi gwybod i chi am eich cymhwysedd drwy eich cyfeiriad e-bost Prifysgol erbyn diwedd mis Hydref 2024.

Oes.

Na, mae'r fwrsariaeth hon yn daladwy yn eich blwyddyn gyntaf yn unig.

Gallwch.

Na. Mae'r fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr a fydd yn cwblhau gradd HND neu sylfaen mewn coleg rhestredig yn y flwyddyn academaidd 2023/24 ac sy'n symud ymlaen i radd anrhydedd israddedig gymwys, amser llawn neu ran-amser, sy'n dechrau ym mlwyddyn 2** neu 3, neu radd atodol gymwys, amser llawn neu ran-amser, blwyddyn o hyd mewn campws Prifysgol De Cymru sy'n dechrau ym mis Medi 2024.

Os ydych yn bwriadu dechrau eich cwrs ym mis Medi 2025, bydd angen i chi wirio manylion unrhyw gynllun bwrsariaeth neu ysgoloriaeth sydd ar gael i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau ym mis Medi 2025 a bodloni'r meini prawf cymhwysedd sy'n ymwneud â'r cynllun hwnnw, gan gynnwys gwneud cais os oes angen.

Mae'r fwrsariaeth ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau gradd israddedig cymwys, amser llawn neu ran-amser, sy'n dechrau ym mlwyddyn tri (neu flwyddyn dau ar gyrsiau cymwys penodol) sydd wedi'u lleoli ar gampws Prifysgol De Cymru ac sy'n dechrau ym mis Medi 2024.

Cyn belled â'ch bod yn trosglwyddo i gwrs cymwys arall ac yn parhau i fodloni meini prawf y fwrsariaeth, byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael taliad ar yr amser a fwriadwyd.

Os byddwch yn gadael cyn derbyn y taliad yn y tymor cyntaf, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn y fwrsariaeth.

Os byddwch yn penderfynu gadael ar ôl derbyn y taliad , mae gennych hawl i gadw’r taliad.

 

Bydd. Drwy dderbyn unrhyw daliadau, rydych yn cytuno i ad-dalu unrhyw symiau y canfyddir yn ddiweddarach eu bod yn ordaliadau neu’n daliadau anghywir. Bydd unrhyw ordaliadau nad ydynt yn cael eu had-dalu yn arwain at gyfeirio'r ddyled at adran Gyllid y Brifysgol a chymryd camau priodol.

Na. Does dim rhaid i chi ad-dalu'r Fwrsariaeth, oni bai bod taliad wedi'i wneud mewn camgymeriad. Os felly, gweler y Cwestiynau Cyffredin uchod ynghylch gordaliadau.

Na. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau a gynigir gan y coleg. Cysylltwch â’r coleg achrededig/cysylltiedig yn uniongyrchol.

Mae gan bob myfyriwr yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr ynghylch eu cymhwysedd ar gyfer y Fwrsariaeth Dilyniant.

Mae manylion llawn am y broses Apelio Ysgoloriaeth / Bwrsariaeth ar gael yma.

*“Cynigir ysgoloriaethau a bwrsariaethau Prifysgol De Cymru ar y sail y gallent newid. Mae'r Brifysgol hefyd yn cadw'r hawl i gyfyngu ar nifer yr ysgoloriaethau a'r bwrsariaethau sydd ar gael."

**Yn dibynnu ar faes pwnc y radd.