Gradd-Brentisiaethau

GWYBODAETH I GYFLOGWYR

Datblygwch dalent, rhowch hwb i’ch busnes, a helpwch i greu’r dyfodol gyda Phrentisiaethau Gradd.

Prentisiaethau ar gael
Network75 and Degree Apprenticeship employer Joanna Kerrigan smiles at the camera while wearing a blue lanyard in front of an office space

Rydym yn cynnig cyfle unigryw i gyflogwyr ddatblygu pobl ddawnus sydd â’r sgiliau i’w gwneud yn barod i’r byd gwaith, drwy ein Prentisiaethau Gradd. Trwy weithio mewn partneriaeth â ni, gallwch fanteisio ar ffordd gost-effeithiol o datblygu eich gweithlu, gwella cynhyrchiant, a diogelu eich busnes at y dyfodol. Mae ein rhaglenni wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion penodol eich diwydiant, sy’n sicrhau bod prentisiaid yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau a fydd o fudd uniongyrchol i'ch sefydliad.

  • Gyda dros 20 mlynedd o brofiad, mae'r Academi Broffesiynol yn PDC yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr i ddarparu prentisiaethau gradd sydd â ffocws ar ddiwydiant ac sydd wedi'u teilwra at eich anghenion busnes penodol. Bydd ein tîm ymroddedig yn cynnig arweiniad i chi drwy gydol y broses, ac yn sicrhau bod eich prentisiaid yn ennill y sgiliau ymarferol a'r wybodaeth academaidd fydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eich sefydliad. Byddwn yn gweithio gyda chi i asesu'r llwybr a'r pwynt mynediad gorau ar gyfer eich prentisiaid

  • Ar hyn o bryd mae gan brentisiaethau gradd yng Nghymru ffocws ar feysydd blaenoriaeth sydd wedi eu pennu gan Lywodraeth Cymru a’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol. Yn unol â'r strategaeth hon, mae PDC yn cynnig amrywiaeth o brentisiaethau gradd. Rydym yn hapus hefyd i gwrdd â chyflogwyr o unrhyw sector i drafod sut y gallwn gefnogi eich anghenion penodol. Mae prentisiaethau yn cael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy PDC, gyda’r cyflogwyr yn gyfrifol am becyn cyflogaeth y prentisiaid.

  • Rhaid i brentisiaid dreulio o leiaf 51% o'u hamser gweithio yng Nghymru a chael eu cyflogi mewn rôl sy'n uniongyrchol berthnasol i'w rhaglen brentisiaethau. Rhaid i brentisiaid fod yn mewn swydd barhaol ac nid oes cyfyngiadau o gwbl ar faint neu fath y cyflogwyr. Mae pob parti yn llofnodi cytundeb tridarn sy'n amlinellu’r cyfrifoldebau perthnasol.

  • Byddwch yn darparu'r cynllun cymorth a hyfforddiant sydd ei hangen i helpu'ch prentis i gael cydbwysedd rhwng eu hastudiaethau a’u gwaith, yn aseinio mentor yn y gweithle i arwain eu datblygiad, ac yn sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn adolygiadau tridarn rheolaidd i fonitro eu cynnydd.


Beth yw’r manteision?

Civil engineering female student measuring something on a wall
cyber security student working at computer with equipment
Students working on computers with the help of a lecturer
A cyber security student smiles at their friend and chats while drinking a coffee at Newport Campus

Ffoniwch ni

01443 482203

01443 654488

Cysylltwch â'r Academi Broffesiynol heddiw i drafod sut y gallwn weithio gyda'n gilydd.