Byddwch Yn Rhan O'r Cyffro

Graddau Addysg

O ddamcaniaethau addysg i ddatblygiad plant a heriau ymddygiadol, bydd astudio addysg ym Mhrifysgol De Cymru yn eich helpu i wneud gwahaniaeth.

Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
A student reading a childrens book

Mae gan ein cyrsiau addysg agwedd ymarferol. Gyda lleoliadau gwaith a chlinigau ar y campws, byddwch yn cael pob cyfle i ennill sgiliau, hyder a phrofiad.


Pam ADDYSG yn PDC?

Eich Dyfodol

Mae graddedigion wedi dilyn llwybrau gyrfa cyffrous ac amrywiol gan gynnwys gweithio mewn ysgolion, y sector STEM, ac elusennau plant.

Rhoi Theori Ar Waith

Mae lleoliadau gwaith a chlinigau ar y campws yn rhoi sgiliau, hyder a phrofiad i chi.

Adlewyrchu Bywyd Go-iawn

Dysgwch mewn amgylchedd sy'n eich paratoi'n llawn ar gyfer byd gwaith mewn gofodau sy'n ail-greu gwahanol arddulliau dysgu.

Cyfleusterau Trawiadol

Cael mynediad at gyfleusterau arloesol gan gynnwys realiti estynedig a rhithwir ar ein Campws yng Nghasnewydd.

Cyrsiau Byr Addysg

P'un a ydych yn athro newydd gymhwyso neu'n awyddus i wella'ch sgiliau, rydym yn cynnig ystod o gyrsiau byr Addysg ar gyfer cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.

Cyrsiau Addysg

AAA/ADY (Anawsterau Dysgu Penodol) - PGDip

Cyflawnwch ddiploma lefel 7 gyda'r opsiwn i ennill cymhwyster proffesiynol ac achrediad a gydnabyddir yn genedlaethol wrth gefnogi anawsterau dysgu penodol (dyslecsia) - gan eich darparu i wneud newidiadau gwirioneddol i'ch ymarfer mewn ysgolion a lleoliadau dysgu.


AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) - MA

Cymhwyswch eich hun â dulliau ac arferion sy'n esblygu ar gyfer anabledd a chymorth, gan eich paratoi i gael effaith ystyrlon ar draws ysgolion ac amgylcheddau dysgu eraill.


AAA/ADY (Awtistiaeth) - MA

Mae'r cwrs MA AAA/ADY (Awtistiaeth) ym Mhrifysgol De Cymru yn unigryw yng Nghymru. Dyma'r unig astudiaeth seiliedig ar ymarfer o awtistiaeth yn y rhanbarth, ac mae'n dod ag amrywiaeth eang o fyfyrwyr ynghyd o dde Cymru a gorllewin Lloegr, yn ogystal â myfyrwyr rhyngwladol.


Addysg - BA (Anrh)

Agorwch ddrysau i gyfleoedd gyrfa yn datblygu plant mewn amgylcheddau cyffrous sy’n amrywio o chwaraeon i amgueddfeydd, ac o sŵau i’r awyr agored, a mwynhewch lwybr di-dor i fyd addysg.


Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) - MA

Enillwch y sgiliau a'r hyder sydd i gyrru newid ystyrlon ym maes addysg.


Addysg (Cymru) - MA

Estynnwch eich gwybodaeth, ymgysylltwch ag ymchwil a gyrrwch newid addysgol – gan adlewyrchu ymarfer proffesiynol a blaenoriaethau Cymru.


Addysg (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol addysgol yng Nghymru ar bob lefel sy’n dymuno canolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol (ADY), dwysáu eu gwybodaeth, ymgysylltu ag ymchwil a gyrru newid sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru.


Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol addysgol yng Nghymru ar bob lefel sy’n dymuno canolbwyntio ar arweinyddiaeth ar draws y system addysg, ymgysylltu ag ymchwil a gyrru newid sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru.


Addysg (Cymru): Cwricwlwm - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol addysgol yng Nghymru ar bob lefel sy’n dymuno dwysau eu dealltwriaeth o ddamcaniaeth, dylunio, gweithredu ac arweinyddiaeth y cwricwlwm, gan ymgysylltu ag ymchwil a gyrru newid sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru.


Addysg (Cymru): Cydraddoldeb mewn Addysg - MA

Mae’r llwybr arbenigol hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol addysgol yng Nghymru ar bob lefel sydd â diddordeb mewn hyrwyddo tegwch, gan archwilio effaith annhegwch ar ddysgwyr a gyrru newid sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru.


Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PcET) - TAR

Cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sy’n hyderus gydag ysgrifennu addysgol neu gymdeithasegol, neu rai a fydd efallai â diddordeb mewn ennill MA mewn Addysg yn ddiweddarach.


Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PcET) - ProfCE

Cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sydd â’r nod o addysgu pwnc galwedigaethol a thechnegol fel Gwallt a Harddwch, Adeiladu, Gwaith Saer a Chynnal a Chadw Cerbydau Modur.


Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PcET) - ProfGCE

Cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sydd â’r nod o addysgu pwnc penodol fel Celf a Chynllun, y Celfyddydau Perfformio, Mathemateg, Chwaraeon, Busnes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Y Cyfryngau a TG.


Addysg Blynyddoedd Cynnar (Atodol) - BA (Anrh)

Mae'r cwrs BA (Anrh) Blynyddoedd Cynnar (Atodol) yn archwilio arferion gorau ym maes addysg y blynyddoedd cynnar o bob cwr o'r byd, gan ganolbwyntio ar feithrin sgiliau meddwl yn feirniadol a gwybodaeth ddamcaniaethol, a magu profiad go iawn mewn lleoliadau addysg lleol.


Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer (gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) - BA (Anrh)

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio yn unol â gwaith ymchwil blaengar a'r arferion cyfredol, gan sicrhau y bydd gennych y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i allu cael eich cyflogi yng ngweithlu'r blynyddoedd cynnar.


Addysgu mewn Addysg Uwch - PGCert

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i helpu ymarferwyr i ddatblygu eu hymarfer proffesiynol ym maes Addysg Uwch.


Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) - MA

Nid yw'r rhan fwyaf o athrawon Saesneg yn siaradwyr Saesneg brodorol. Bydd ein graddedigion yn gweithio mewn gwahanol gyd-destunau proffesiynol a diwylliannol. Mae ein harweinydd cwrs, Dr Rhian Webb, yn arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol ar ddysgu Saesneg yng nghyd-destun byd-eang heddiw.


Arwain a Rheoli (Addysg) - MA

Datblygwch y wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau ymarferol i arwain yn effeithiol mewn lleoliadau addysgol ac ym maes dysgu proffesiynol.


CAMH (Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed) - MA

Mae'r cwrs Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed hwn yn datblygu gweithwyr proffesiynol gwybodus a myfyriol sy'n gallu defnyddio ymarfer seiliedig ar dystiolaeth mewn ffyrdd a fydd yn cael effaith ar y gweithle ac ar ddeilliannau'r plant a'r bobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.


Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd - BA (Anrh)

Y cwrs hwn yw’r unig gwrs prifysgol yng Nghymru sydd wedi’i gymeradwyo gan y Social Pedagogy Professional Association. Mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr ennill y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau y mae galw mawr amdanynt ar gyfer amrywiaeth o swyddi mewn ysgolion, ym meysydd cyfiawnder ieuenctid, gofal cymdeithasol, atal ac ymyrraeth gynnar, ac mewn elusennau.


Pam Prifysgol De Cymru?

Ar y brig yng Nghymru

o ran rhagolygon graddedigion mewn Addysg. (Complete University Guide 2023)

Pam Prifysgol De Cymru?

Addysg ym Mhrifysgol De Cymru

sydd ar y brig yng Nghymru am addysgu (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023)

Cyrsiau Byr Addysg

Astudiwch yng nghanol Casnewydd

Dinas ar gynnydd, ac yn ei chanol, yn edrych dros yr Afon Wysg, yn un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


A student teacher interacting with students in a colourful primary school classrom.

Myfyriwr yn dal llyfr yn y llyfrgell

An academic wearing a blue lanyard talks while animating points with their hands to a couple of students while stood in front of windows in a classroom

teacher looking at young pupil as she interacts with a digital whiteboard with stylus pen

Learning and support worker reading a book to a child sitting in a wheelchair

Diwrnodau Agored i ddod

An internal shot of the Newport campus overlooking the library and the view of the river Usk.

Notice: Undefined index: options in /efs/www.southwales.ac.uk/htdocs/cy/digwyddiadau/config.php on line 220

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru