Ar gyfer Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth

Modiwlau TGAU Cyfwerth

Edrych i hyfforddi fel athro ond wedi colli allan ar raddau C yn TGAU ar gyfer Saesneg, Mathemateg neu Wyddoniaeth?

Graddau Addysgu neilltuwch lle ar diwrnod agored
A stack of textbooks with a collection of pencils sat on top of the pile

Os ydych am astudio cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru, bydd angen i chi gael gradd C TGAU mewn Saesneg a Mathemateg ac, ar gyfer rhaglen addysgu Cynradd, gradd C TGAU mewn Gwyddoniaeth. Mae hyn yn berthnasol i gyrsiau a astudir ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig.



Modiwlau cywerthedd gradd C

Cyflwynir y modiwl Mathemateg Hanfodol ar-lein ar ddydd Iau (5.30yh tan 7.30yh) am 12 wythnos. Tiwtor y cwrs yw Carol Wood. 

Ymhlith y pynciau yr ymdrinnir â hwy mae:

  • Dulliau Algebraidd
  • Ystadegau
  • Gofod a Siâp
  • Geometreg a Siâp

Cyflwynir y modiwl Saesneg Hanfodol ar-lein ar ddydd Mawrth (5.30yh tan 7.30yh) am 12 wythnos. Tiwtor y cwrs yw Carol Wood. 

Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Adolygu sgiliau: gan gynnwys agweddau allweddol ar strwythur brawddegau, atalnodi a sillafu
  • Deall Gramadeg
  • Adeiladu traethawd
  • Darllen er gwybodaeth
  • Defnyddio repertoires iaith priodol
  • Mathau o destun ffeithiol

Cyflwynir y modiwl Gwyddoniaeth Hanfodol ar-lein ar ddydd Llun (5:30yh i 7:30yh) am 12 wythnos. Tiwtor y cwrs yw Carol Wood.

Nod y modiwl yw datblygu gwybodaeth, sgiliau a hyder myfyrwyr i safon TGAU Gwyddoniaeth cyfwerth â gradd C.

Nodau'r Modiwl yw:

  •  Galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau gwyddonol llafar, ysgrifenedig ac ymarferol.
  • I arfogi myfyrwyr â'r technegau ymchwiliol ac arbrofi y gellir eu cymhwyso i sefyllfaoedd gwyddonol bywyd go iawn.
  • Datblygu hyder a chymhwysedd myfyrwyr i ddarparu sylfaen gadarn mewn gwyddoniaeth.

Mathemateg

  • Mathemateg Hanfodol - Dydd Llun 23 Medi 2024
  • Mathemateg Hanfodol - Dydd Llun 13 Ionawr 2025

Saesneg 

  • Saesneg Hanfodol - Dydd Mawrth 24 Medi 2024
  • Saesneg Hanfodol - Dydd Mawrth 14 Ionawr 2025

Gwyddoniaeth

  • Gwyddoniaeth Hanfodol - Dydd Iau 26 Medi 2024
  • Gwyddoniaeth Hanfodol - Dydd Iau 16 Ionawr 2025

Cofrestrwch ar-lein heddiw i ddechrau eich cais. 

Atodwch gopi o'ch tystysgrif TGAU Saesneg, a/neu Fathemateg, a/neu Wyddoniaeth i'r ffurflen gais.

Pan fyddwch yn gwneud cais am y modiwl, bydd angen i chi roi'r enwau cwrs canlynol yn y blwch chwilio:

  • Y modiwl Saesneg Hanfodol ar gyfer Addysgu
  • Y modiwl Mathemateg Hanfodol ar gyfer Addysgu
  • Y modiwl Gwyddoniaeth Hanfodol ar gyfer Addysgu

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]