/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/teaching/subject-teaching-generic-48318.jpg)
Rwyf wedi cynyddu fy hyder a fy annibyniaeth, ynghyd â’r gallu i werthuso ffynonellau'n feirniadol.
Gwneud yn fawr o’r cyfle i gydweithio â chyd-fyfyrwyr
Rwy'n fyfyriwr trydedd flwyddyn yn PDC, yn dilyn gradd mewn addysg. Dechreuodd fy nhaith gydag angerdd dros addysg, a ddechreuodd pan oeddwn i’n gweithio fel cynorthwyydd addysgu yn Henffordd. Er gwaethaf yr heriau oedd ynghlwm wrth ddod o hyd i’r cwrs iawn i fi, roedd PDC ymhell ar y blaen oherwydd ei henw da a'i hamgylchedd cefnogol.
Mae'r dysgu mewn person yn PDC wedi bod yn uchafbwynt i fi. Yn wahanol i gyrsiau blaenorol rwyf wedi'u dilyn, mae'r rhaglen hon yn rhyngweithiol iawn, gyda sesiynau dosbarth cydweithredol sy'n gwneud pob darlith yn ddifyr. Rhan amlwg o fy nghwrs yw'r gwersi Cymraeg, sydd wedi'u cynllunio i'n paratoi ar gyfer dysgu'r iaith i ddisgyblion. Mae'r sesiynau hyn yn rhyngweithiol ac yn llawn hwyl, ac yn fy helpu i gysylltu â chyd-fyfyrwyr a datblygu sgiliau ymarferol.
Dewch o hyd i'ch cwrsTeimlo'n hyderus i ddilyn gyrfa
Mae'r cyfleoedd ymarferol yn PDC wedi bod yn eithriadol. Mae lleoliadau yn rhan annatod o'r cwrs, ac yn cynnig profiad addysgu yn y byd go iawn a chyfle i roi’r hyn rwyf wedi'i ddysgu ar waith. Yn ogystal, mae darlithoedd gwadd gan athrawon profiadol yn ymdrin â phynciau fel technoleg ddigidol a chymorth gyda Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae'r mewnwelediadau hyn wedi bod yn amhrisiadwy wrth fy mharatoi ar gyfer yr ystafell ddosbarth.
Mae prosiectau cydweithredol hefyd wedi bod yn rhan bwysig o fy mhrofiad. O ddiwrnodau synergedd grŵp ar leoliad i greu adnoddau digidol gyda chyd-fyfyrwyr, mae'r gweithgareddau hyn wedi dysgu pwysigrwydd gwaith tîm a dysgu ar y cyd.
Mae fy sgiliau fel athro ac ymchwilydd wedi tyfu'n aruthrol. Rwyf wedi cynyddu fy hyder a fy annibyniaeth, ynghyd â’r gallu i werthuso ffynonellau'n feirniadol. I unrhyw un sy'n ystyried y cwrs hwn, byddwn i'n cynghori eich bod yn bachu ar y cyfle—mae'n gofyn am waith caled, ond bydd yn talu ar ei ganfed.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Addysgu?
Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, mae PDC ar eich cyfer chi. Byddwch yn cael mynediad rheolaidd i ystafelloedd dosbarth arbenigol, a phrofiadau addysgu byd go iawn gwarantedig mewn ysgolion cynradd neu golegau addysg bellach.