Julia Jones

Fy nhaith i faes hyfforddiant athrawon

Addysgu
Teaching student, Julia, smiles at the camera whilst leaning on a bookshelf in Newport campus

PDC yw fy mhrifysgol leol – dyma lle gwnes i fy BA – felly roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yn dod yn ôl ar ôl gwneud fy ngradd meistr yn rhywle arall.


Bod yn benderfynol wnaeth fy arwain at astudio addysgu 

Nid mynd yn syth o'r ysgol i swydd oedd y llwybr yr oedd Julia Jones eisiau ei gymryd - roedd hi eisiau parhau i astudio, gwneud ei Lefel A a mynd ymlaen i ennill gradd.  

Mae’r fam o Ben-y-bont ar Ogwr – sydd ar hyn o bryd yn warchodwr plant hunangyflogedig, yn ysgrifennu’n llawrydd i gylchgrawn gofal plant cenedlaethol, ac yn wniadyddes sy’n canolbwyntio ar wneud gynau a gwisgoedd cyfnod y rhaglywiaeth – bellach yn gweithio ar ei chymhwyster diweddaraf, Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET) ym Mhrifysgol De Cymru. 

“Roeddwn i eisiau mynd ymlaen i addysg uwch pan oeddwn i'n 18, ond doedd fy rhieni ddim yn gweld y pwynt i mi gael fy Lefel A neu radd ac fe wnaethon nhw fynnu fy mod i’n mynd i fyd gwaith,” esboniodd. 

“Diwedd yr 80au oedd hi ac roedd pethau’n wahanol bryd hynny, felly fe wnes i adael yr ysgol. Ond, fel oedolyn, roeddwn i eisiau profi y gallwn i ennill gradd. Fe wnes i hynny – mae gen i radd a meistr mewn addysg a llawer o bethau eraill rhyngddyn nhw – ac rwy'n bwriadu dechrau ar fy PhD unwaith y byddaf i wedi gorffen y cwrs hwn." 

Ar ôl cwblhau ei MA, gwelodd Julia nad oedd mynd i mewn i’w dewis faes mor hawdd ag yr oedd wedi’i ddisgwyl, felly roedd cwrs addysgu PDC yn ddelfrydol iddi. 

“Ar ôl i mi orffen fy ngradd meistr doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud â fy nghymhwyster,” esboniodd. 

“Fe wnes i geisio am ambell swydd, ond doedd neb eisiau cyflogi gwarchodwr plant sydd â gradd meistr. Doedd gen i ddim digon o brofiad ar gyfer swyddi addysgu, neu roedd gen i ormod o gymwysterau ar gyfer swyddi nad ydyn nhw’n rhai addysgu. 

 “Felly, penderfynais gael cymhwyster addysgu i gael i mewn i addysgu’n iawn. PDC yw fy mhrifysgol leol – dyma lle gwnes i fy BA – felly roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yn dod yn ôl ar ôl gwneud fy ngradd meistr yn rhywle arall.” 

Dewch o hyd i'ch cwrs

ROEDDWN I EISIAU PROFI Y GALLWN I ENNILL GRADD. FE WNES I HYNNY – MAE GEN I RADD A MEISTR MEWN ADDYSG A LLAWER O BETHAU ERAILL RHYNGDDYN NHW.

Julia Jones

Myfyriwr Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

Bod yn rhan o gymuned ddysgu gefnogol 

Mae'r gefnogaeth gan eraill ar y cwrs yn rhywbeth y mae Julia yn dweud sy'n hanfodol. “Rydyn ni'n grŵp bach ar nos Iau, ond rydyn ni i gyd yn agos iawn ac yn gefnogol iawn i'n gilydd, rydyn ni fel teulu astudio bach,” meddai. 

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan dîm bach ond hynod gymwys a chefnogol ac mae’n addas i rai sy’n addysgu ar hyn o bryd neu’n bwriadu addysgu, nid yn unig mewn colegau AB ond hefyd mewn carchardai, sefydliadau hyfforddi’r heddlu a’r gwasanaeth tân, colegau chweched dosbarth, canolfannau oedolion a chymunedol, diwydiant, sefydliadau hyfforddi ac AU, ac mae’n dibynnu ar gymwysterau a phrofiad blaenorol. 

Gan archwilio syniadau ac arferion da mewn perthynas â dysgu ac addysgu, mae’r cwrs yn ystyried rolau ehangach y gall dysgwyr eu cyflawni fel rhan o’u harfer proffesiynol yn ogystal â materion sy’n effeithio ar y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Addysgu?

Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, mae PDC ar eich cyfer chi. Byddwch yn cael mynediad rheolaidd i ystafelloedd dosbarth arbenigol, a phrofiadau addysgu byd go iawn gwarantedig mewn ysgolion cynradd neu golegau addysg bellach.