Syeda Hussain

Fy uchelgais i greu ystafell ddosbarth gynhwysol wnaeth danio fy angerdd am addysgu

Addysgu
Teaching student, Syeda

Rydw i eisiau i fy nosbarth deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u dathlu am eu profiadau a’u galluoedd unigryw.


Tanio fy angerdd am addysgu 

“Rwy’n athrawes ysgol gynradd newydd gymhwyso; fe fyddaf i’n gweithio mewn ysgol gynradd leol yng Nghaerdydd. Fy rôl yw hwyluso amgylchedd dysgu effeithiol lle mae’r plant yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu croesawu wrth ymwneud â chynnwys y cwricwlwm. Fy nod yw grymuso dysgwyr i arwain eu dysgu; cydweithio â chyfoedion, ac ymgymryd â heriau newydd. 

A minnau wedi fy magu yng Nghymru, fel rhan o grŵp ethnig leiafrifol, rwy wedi profi’r heriau y mae llawer o blant yn eu hwynebu wrth geisio cael addysg gynhwysol a chynrychioliadol. Dyna pam rwy'n angerddol iawn am ddefnyddio fy rôl addysgu i ddod yn fodel rôl i blant o bob cefndir. Fy uchelgais i greu ystafell ddosbarth gynhwysol wnaeth danio fy angerdd am addysgu. Rydw i eisiau i fy nosbarth deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u dathlu am eu profiadau a’u galluoedd unigryw. Rwy hefyd eisiau eu helpu i ddatblygu dyheadau uchel ar gyfer eu dyfodol. 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

DRWY’R LLEOLIADAU GWAITH, FE WNES I SYLWEDDOLI PA FATH O ATHRO RWY EISIAU BOD, GAN OLEUO FY NEALLTWRIAETH O RÔL ATHRO.

Syeda Hussain

Graddedig Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC

Gwneud y gorau o leoliadau gwaith  

Gwnaeth lleoliadau gwaith ddatblygu fy sgiliau cydweithio, gan geisio a rhannu arweiniad ac elfennau o arferion gorau. Datblygais berthnasoedd gwaith effeithiol gyda rhieni gan gefnogi gweithwyr proffesiynol a’r gymuned ehangach. Fe wnaethon nhw wneud i mi sylweddoli pa fath o athro rwy eisiau bod, gan oleuo fy nealltwriaeth o rôl athro. 

Rwy wedi bod ar bedwar lleoliad gwaith mewn ysgolion cynradd. Trwy’r lleoliadau hyn, fe wnes i gynnydd tuag at gyflawni gofynion Statws Athro Cymwysedig (SAC), fel sydd wedi’i amlinellu yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth.  

Cyn dechrau ar y cwrs, doeddwn i ddim yn gwybod sut y byddwn i’n defnyddio technoleg yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. O’r darlithoedd a’r sesiynau grŵp, rwy’n deall ei phwysigrwydd a’i manteision. Rwy wedi rhoi’r strategaethau technoleg rwy wedi'u dysgu ar waith ar leoliad. Bydd y sgiliau rwy wedi'u hennill yn ddefnyddiol, yn enwedig os bydd angen i mi newid i ddysgu cyfunol yn y dyfodol. 

Mae cyfleusterau'r cwrs wedi fy helpu i baratoi ar gyfer fy rôl addysgu. Maen nhw’n cynnwys ystafelloedd dosbarth arbenigol sy'n efelychu lleoliad ysgol gynradd, labordy gwyddoniaeth a nifer o ystafelloedd cyfrifiaduron a oedd yn darparu cyfleoedd dysgu go iawn. 

Roedd y cwrs yn caniatáu i mi archwilio ac ymchwilio i fy niddordeb mewn dwyieithrwydd a dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol. Felly cynhaliais brosiect ymchwil ar effeithiau dwyieithrwydd a ffyrdd o ymarfer yn well o ran llafaredd. Gwnaeth fy nhiwtor fy nghefnogi drwy'r prosiect hwn gan ddangos gwir ddiddordeb. Mae’r tiwtoriaid yn y Brifysgol yn rhoi sylw i’ch diddordebau a'ch angerdd gan eu bod yn gwybod mai dyna sy'n eich helpu i ddod yn well athro. 

Roeddwn i wrth fy modd yn cyfarfod â phobl newydd ar y cwrs. Roedd meithrin perthynas ag athrawon eraill dan hyfforddiant yn wych gan eu bod yn yr un sefyllfa â chi. Rwy'n ffodus fy mod i wedi gwneud ffrindiau da a oedd yn fy nghefnogi, gan roi'r cymhelliant a'r anogaeth yr oedd eu hangen arnaf i ddod drwy'r cyfnodau anodd. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

Diddordeb mewn Addysgu?

Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, mae PDC ar eich cyfer chi. Byddwch yn cael mynediad rheolaidd i ystafelloedd dosbarth arbenigol, a phrofiadau addysgu byd go iawn gwarantedig mewn ysgolion cynradd neu golegau addysg bellach.