Graddau Amgylchedd Adeiledig
Prifysgol De Cymru yw darparwr mwyaf cyrsiau tirfesur a chyrsiau rheoli prosiect a achredir gan ddiwydiant yng Nghymru, wedi’i hachredu’n llawn gan y Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS), corff proffesiynol mwyaf blaenllaw’r byd ym meysydd tir, eiddo, adeiladu a materion amgylcheddol cysylltiedig.
Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-course-built-environment.jpeg)
Os ydych chi'n mwynhau her problemau ymarferol ac eisiau bod wrth galon prosiectau adeiladu, efallai mai gyrfa mewn syrfewr meintiau neu reoli prosiectau yw'r hyn rydych chi'n edrych amdani.
Mae ein cyrsiau yn cynnig
-
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yw prif gorff y byd ar gyfer cymwysterau a safonau mewn tir, eiddo, seilwaith ac adeiladu. Fel darparwr mwyaf Cymru o gyrsiau tirfesur a rheoli prosiect a achredwyd gan y diwydiant, gall PDC eich helpu i gael mantais gystadleuol yn eich gyrfa.
-
I gael profiad ychwanegol, byddwch yn defnyddio cyfleusterau o safon diwydiant ar y campws. Gall y rhain gynnwys labordai cyfrifiadura gyda meddalwedd peirianneg fel Revit, ArchiCAD, AutoCAD, Autodesk QTO, CostX, Synchro, a Navisworks ac ardal prosiect amgylchedd adeiledig pwrpasol.
-
Rydym yn argymell eich bod yn treulio blwyddyn yn gweithio yn y diwydiant adeiladu fel rhan o'ch gradd. Yn ystod y flwyddyn ‘rhyngosod’ hon, byddwch yn cael profiad ymarferol a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd mwy deniadol i gyflogwyr ac a fydd yn llywio eich astudiaethau yn eich blwyddyn olaf.
Cyrsiau Amgylchedd Adeiledig
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/hnc-built-environment.png)
Hogwch eich sgiliau a datblygwch wybodaeth hanfodol ym maes adeiladu, lle byddwch chi'n dysgu popeth, o adeiladu ac adnewyddu i ddymchwel. Mae'r HNC rhan-amser hwn wedi'i gynllunio i gyd-fynd â gwaith ac mae'n cynnwys y mewnwelediadau diweddaraf i’r sector gan ddarlithwyr arbenigol a siaradwyr gwadd y diwydiant.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/built-environment-msc-safety-health-environmental-management-placeholder-01.png)
Gyda materion diogelwch, iechyd ac amgylcheddol yn dod yn fwyfwy pwysig, mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol sydd â’r sgiliau cywir. Mae'r cwrs gradd MSc Diogelwch, Iechyd a Rheolaeth Amgylcheddol yn cynhyrchu ymarferwyr iechyd a diogelwch o'r fath, sy'n gallu nodi, asesu a datrys problemau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol drwy gymhwyso egwyddorion rheoli da.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/built-environment-bsc-construction-project-management-placeholder-01.png)
Mae Rheolwr Prosiectau Adeiladu da yn hanfodol. Mae angen i bob prosiect, boed yn adeilad newydd neu’n waith adnewyddu, yn ddatblygiad preswyl, yn nendwr, neu’n brosiect isadeiledd, gael ei reoli i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau ar amser, o fewn y gyllideb ac i safon uchel. Mae’r Rheolwr Prosiectau Adeiladu yn gweithio’n agos gyda’r cleient, y tîm dylunio a’r contractwr.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/built-environment-bsc-construction-project-management-placeholder-01.png)
Datblygwch eich sgiliau fel rheolwr prosiect adeiladu, gan ddysgu sut i bontio’r bwlch rhwng cleient a chontractwr a chyflawni prosiectau mewn pryd ac o fewn y gyllideb.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/built-environment-msc-construction-project-management-placeholder-01.png)
Os ydych chi’n gweithio mewn proffesiwn sy’n gysylltiedig ag adeiladu, neu os ydych chi eisiau gyrfa ym maes rheoli prosiectau adeiladu, bydd y cwrs Meistr hwn yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Achredir y cwrs gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a’r APM.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/built-environment-bsc-construction-project-management-placeholder-02.png)
Mae Rheolwr Prosiectau Adeiladu da yn hanfodol. Mae angen i bob prosiect, boed yn adeilad newydd neu’n waith adnewyddu, yn ddatblygiad preswyl, yn nendwr, neu’n brosiect isadeiledd, gael ei reoli i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau ar amser, o fewn y gyllideb ac i safon uchel. Mae’r Rheolwr Prosiectau Adeiladu yn gweithio’n agos gyda’r cleient, y tîm dylunio a’r contractwr.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/built-environment-bsc-real-estate-placeholder-01.png)
Mae'r diwydiant tir ac eiddo yn symud yn gyflym, mae’n ddeinamig, ac yn llawn cyfle. Dechreuwch eich gyrfa mewn maes gwerth chweil lle nad oes dau eiddo yr un fath. Cewch fewnwelediad i arfarniadau tir ac eiddo a chyfraith eiddo gyda'r cyfle i ennill wrth i chi ddysgu gydag astudio amser llawn a rhan-amser ar gael.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/built-environment-bsc-real-estate-placeholder-02.png)
Mae blwyddyn sylfaen y cwrs gradd Eiddo Tirol yn rhan o raglen radd integredig pedair blynedd o hyd, ac fe'i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni'r meini prawf derbyn ar gyfer mynediad uniongyrchol i gwrs gradd mewn pynciau gan gynnwys BSc (Anrh) Eiddo Tirol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/built-environment-bsc-building-surveying-placeholder-01.png)
Mae angen cynyddol am bobl sy'n gallu rheoli a chynghori ar bob agwedd ar ein hamgylchedd adeiledig sy'n newid yn barhaus. Bydd syrfewyr adeiladau yn chwarae rhan hanfodol wrth i'r galw am fannau trefol mwy cynaliadwy ac effeithlon gynyddu. Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi i gamu i'r rôl honno.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/built-environment-bsc-building-surveying-placeholder-02.png)
Mae Arolygwyr Adeiladau yn rheoli’r Amgylchedd Adeiledig sy’n esblygu ac mae eu gwaith yn hollbwysig wrth i’r galw am ofod trefol gynyddu. Bydd y cwrs hwn yn eich addysgu am reolaeth adeiladau, cadwraeth, diffygion, cynllunio ac adeiladu, sy’n wybodaeth allweddol yn y sector hwn.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/bsc-quantity-surveying-and-commercial-management.png)
Datblygwch seilweithiau yfory gyda'n gradd achrededig. Tyfwch eich sgiliau a chymerwch yr awenau yn eich gyrfa tirfesur meintiau a rheoli masnachol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/bsc-quantity-surveying-and-commercial-management-foundation-year.png)
Mae syrfewyr meintiau yn deall pob agwedd ar adeiladu, mae galw mawr amdanynt ac maent yn ennill cyflogau deniadol. Nhw yw rheolwyr ariannol y diwydiant adeiladu ac mae angen iddynt reoli costau’n effeithiol wrth ystyried ansawdd, cynaliadwyedd ac anghenion y cleient. Mae’n yrfa werth chweil sy’n talu’n dda.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.
Eich Profiad Myfyrwyr
Gallwch astudio 40 credyd o'n cyrsiau Adeiledig trwy gyfrwng y Gymraeg. Os ydych yn dewis astudio 40 credyd ymhob blwyddyn, byddwch yn gymwys i ymgeisio am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwerth £1,500 dros dair blynedd.
Wedi’i achredu gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
Mae RICS yn gorff proffesiynol uchel ei barch sy'n cael ei gydnabod yn fyd-eang, maent yn hyrwyddo newid cadarnhaol yn yr amgylcheddau adeiledig a naturiol.
Astudiwch yng nghanol Pontypridd
Mae ein campws yn Nhrefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.
Diwrnodau Agored i ddod
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/05-event-photography/51-open-days/event-open-day-treforest-50360.jpg)