Profwch astudiaeth ymarferol

Graddau Amgylchedd Adeiledig

Prifysgol De Cymru yw darparwr mwyaf cyrsiau tirfesur a chyrsiau rheoli prosiect a achredir gan ddiwydiant yng Nghymru, wedi’i hachredu’n llawn gan y Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS), corff proffesiynol mwyaf blaenllaw’r byd ym meysydd tir, eiddo, adeiladu a materion amgylcheddol cysylltiedig.

Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
Miranda Thomas, Built Environment Lecturer, talking to camera in classroom

Os ydych chi'n mwynhau her problemau ymarferol ac eisiau bod wrth galon prosiectau adeiladu, efallai mai gyrfa mewn syrfewr meintiau neu reoli prosiectau yw'r hyn rydych chi'n edrych amdani.


Mae ein cyrsiau yn cynnig

  • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yw prif gorff y byd ar gyfer cymwysterau a safonau mewn tir, eiddo, seilwaith ac adeiladu. Fel darparwr mwyaf Cymru o gyrsiau tirfesur a rheoli prosiect a achredwyd gan y diwydiant, gall PDC eich helpu i gael mantais gystadleuol yn eich gyrfa.

  • I gael profiad ychwanegol, byddwch yn defnyddio cyfleusterau o safon diwydiant ar y campws. Gall y rhain gynnwys labordai cyfrifiadura gyda meddalwedd peirianneg fel Revit, ArchiCAD, AutoCAD, Autodesk QTO, CostX, Synchro, a Navisworks ac ardal prosiect amgylchedd adeiledig pwrpasol.

  • Rydym yn argymell eich bod yn treulio blwyddyn yn gweithio yn y diwydiant adeiladu fel rhan o'ch gradd. Yn ystod y flwyddyn ‘rhyngosod’ hon, byddwch yn cael profiad ymarferol a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd mwy deniadol i gyflogwyr ac a fydd yn llywio eich astudiaethau yn eich blwyddyn olaf.


Cyrsiau Amgylchedd Adeiledig

Amgylchedd Adeiledig - HNC

Mae cwblhau’r cwrs HNC Yr Amgylchedd Adeiledig yn llwyddiannus yn bodloni’r gofynion academaidd ar gyfer mynediad i gymhwyster Cydymaith Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a gallech ychwanegu at eich cymhwyster cyfredol er mwyn cyflawni gradd Anrhydedd sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol.


Rheoli Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd - MSc

Gyda materion diogelwch, iechyd ac amgylcheddol yn dod yn fwyfwy pwysig, mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol sydd â’r sgiliau cywir. Mae'r cwrs gradd MSc Diogelwch, Iechyd a Rheolaeth Amgylcheddol yn cynhyrchu ymarferwyr iechyd a diogelwch o'r fath, sy'n gallu nodi, asesu a datrys problemau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol drwy gymhwyso egwyddorion rheoli da.


Rheoli Prosiect (Adeiladu) - BSc (Anrh)

Mae Rheolwr Prosiectau Adeiladu da yn hanfodol. Mae angen i bob prosiect, boed yn adeilad newydd neu’n waith adnewyddu, yn ddatblygiad preswyl, yn nendwr, neu’n brosiect isadeiledd, gael ei reoli i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau ar amser, o fewn y gyllideb ac i safon uchel. Mae’r Rheolwr Prosiectau Adeiladu yn gweithio’n agos gyda’r cleient, y tîm dylunio a’r contractwr.

Amgylchedd Adeiledig Saved

Rheoli Prosiect Adeiladu - BSc (Anrh)

Datblygwch eich sgiliau fel rheolwr prosiect adeiladu, gan ddysgu sut i bontio’r bwlch rhwng cleient a chontractwr a chyflawni prosiectau mewn pryd ac o fewn y gyllideb.


Rheoli Prosiect Adeiladu - MSc

Os ydych chi’n gweithio mewn proffesiwn sy’n gysylltiedig ag adeiladu, neu os ydych chi eisiau gyrfa ym maes rheoli prosiectau adeiladu, bydd y cwrs Meistr hwn yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Achredir y cwrs gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a’r APM.


Rheoli Prosiect Adeiladu gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae Rheolwr Prosiectau Adeiladu da yn hanfodol. Mae angen i bob prosiect, boed yn adeilad newydd neu’n waith adnewyddu, yn ddatblygiad preswyl, yn nendwr, neu’n brosiect isadeiledd, gael ei reoli i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau ar amser, o fewn y gyllideb ac i safon uchel. Mae’r Rheolwr Prosiectau Adeiladu yn gweithio’n agos gyda’r cleient, y tîm dylunio a’r contractwr.


Tir ac Eiddo - BSc (Anrh)

Eiddo Tirol yw conglfaen yr Amgylchedd Adeiledig. Mae angen mannau i fyw a gweithio ynddynt ar gymdeithas; ac i gefnogi gweithrediad ein heconomi. Mae'r cwrs hwn yn cynnig mewnwelediad i faes rheoli masnachol a mentergarwch, gydag astudio amser llawn a rhan-amser, gan roi'r cyfle i chi ennill cyflog a dysgu.


Tir ac Eiddo gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae blwyddyn sylfaen y cwrs gradd Eiddo Tirol yn rhan o raglen radd integredig pedair blynedd o hyd, ac fe'i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni'r meini prawf derbyn ar gyfer mynediad uniongyrchol i gwrs gradd mewn pynciau gan gynnwys BSc (Anrh) Eiddo Tirol.


Tirfesur Adeiladau - BSc (Anrh)

Mae Arolygwyr Adeiladau yn rheoli’r Amgylchedd Adeiledig sy’n esblygu ac mae eu gwaith yn hollbwysig wrth i’r galw am ofod trefol gynyddu. Bydd y cwrs hwn yn eich addysgu am reolaeth adeiladau, cadwraeth, diffygion, cynllunio ac adeiladu, sy’n wybodaeth allweddol yn y sector hwn.


Tirfesur Adeiladau gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae Arolygwyr Adeiladau yn rheoli’r Amgylchedd Adeiledig sy’n esblygu ac mae eu gwaith yn hollbwysig wrth i’r galw am ofod trefol gynyddu. Bydd y cwrs hwn yn eich addysgu am reolaeth adeiladau, cadwraeth, diffygion, cynllunio ac adeiladu, sy’n wybodaeth allweddol yn y sector hwn.


Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol - BSc (Anrh)

Mae syrfewyr meintiau yn deall pob agwedd ar adeiladu, mae galw mawr amdanynt ac maent yn ennill cyflogau deniadol. Nhw yw rheolwyr ariannol y diwydiant adeiladu ac mae angen iddynt reoli costau’n effeithiol wrth ystyried ansawdd, cynaliadwyedd ac anghenion y cleient. Mae’n yrfa werth chweil sy’n talu’n dda.


Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Mae syrfewyr meintiau yn deall pob agwedd ar adeiladu, mae galw mawr amdanynt ac maent yn ennill cyflogau deniadol. Nhw yw rheolwyr ariannol y diwydiant adeiladu ac mae angen iddynt reoli costau’n effeithiol wrth ystyried ansawdd, cynaliadwyedd ac anghenion y cleient. Mae’n yrfa werth chweil sy’n talu’n dda.


Buddsoddwch yn eich dyfodol

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.


Gallwch astudio 40 credyd o'n cyrsiau Adeiledig trwy gyfrwng y Gymraeg. Os ydych yn dewis astudio 40 credyd ymhob blwyddyn, byddwch yn gymwys i ymgeisio am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwerth £1,500 dros dair blynedd.


Hyb Arloesi yn PDC

A student observes a robot arm with a claw on the end on a desk while sat at a computer at the Innovation Hub in an engineering workshop at the Treforest campus

Astudiwch yng nghanol Pontypridd

Mae ein campws yn Nhrefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


Sunlight breaking over the Accommodation Hub.

The University Acccommodation Hub, Pontypridd Campus.

Aerospace Centre, Pontypridd Campus.

Mountain Halls building front.

A view of the Students' Union building front at Treforest.

Diwrnodau Agored i ddod

Open Day visitors walking through the Treforest campus. There is a large red open day banner behind them.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru