Graddau Celf
Mae bod yn fyfyriwr celf yn gyfle na ellir ei golli i archwilio eich creadigrwydd ac arbrofi gyda gwahanol ffurfiau celf.
Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod AgoredRydym yn cynnig amgylchedd cefnogol lle gallwch herio eich hun yn artistig ac yn dechnegol. O serameg a gwneud printiau, i gerflunio i beintio, gallwch ddarganfod ffyrdd newydd o fynegi'ch hun a'ch syniadau artistig.
Uchafbwyntiau
Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig
Cyrsiau Celf
Mae’r cwrs gradd Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig yn cynnig cyfle i chi ddatblygu eich ymarfer yn y dyfodol mewn lleoliadau cymunedol ac addysgol.
Mae'r rhaglen yn cael ei llywio gan ddatblygiadau strategol, gwaith cyfredol ac ymchwil ac mae wedi'i chynllunio i arfogi myfyrwyr â'r offer a'r egwyddorion sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y maes gwerthfawr hwn.
Astudiwch yng nghanol Caerdydd
Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.