Cerddoriaeth a Sain
Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.
Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod AgoredMae ein lleoliad a’n cysylltiadau â’r diwydiant cerddoriaeth yn gefndir delfrydol i fyfyrwyr ac mae ein cydweithrediadau â Banc Natwest, Music Managers Forum, BBC Horizons, Warner Music, Gŵyl Swn a Boomtown wrth galon ein cyrsiau.
Pam Cerddoriaeth a Sain yn PDC?
Cyrsiau Cerddoriaeth a Sain
Mae’r cwrs hwn yn cynnig sylfaen ymdrwythol, greadigol, ac ymarferol ym musnes cerddoriaeth a ddatblygwyd ac a gyflwynir gan arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth a’r byd academaidd. Bydd y tîm addysgu’n rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o’r modelau busnes newydd sy’n dod i’r amlwg yn niwydiant cerddoriaeth heddiw ac yn eich herio i ddatblygu’ch strategaethau gyrfaol eich hun.
Y cwrs delfrydol i unrhyw un sy'n angerddol am gerddoriaeth o bob genre neu sy'n edrych i archwilio eu talent gerddorol ymhellach.
Creu, Cydweithio, Arloesi. Gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn cerddoriaeth a sain gyda'n cwrs arloesol BA Cynhyrchu Cerddoriaeth.
Drwy gydol y cwrs Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd, byddwch yn ymwneud â gwaith prosiect helaeth, a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu cynhyrchion cysylltiedig â’r diwydiant. I gael dealltwriaeth ehangach o’r diwydiant a’r gweithle, byddwch yn cydweithio â’ch cydfyfyrwyr wrth berfformio, cyfansoddi, recordio ac ymchwilio.
Elfen bwysig o’r radd Meistr Peirianneg Cerddoriaeth yw cymhwyso’ch gwybodaeth yn ymarferol i gynhyrchu gwaith creadigol iawn. Archwilir meysydd perthynol hefyd, sy’n caniatáu i raddedigion gymhwyso eu sgiliau i lawer o feysydd eraill sy’n gysylltiedig â chyfryngau, gan gynnwys ffilm ac animeiddio.
Dysgwch sut i ddarparu systemau diogel, dibynadwy o ansawdd uchel sy'n gwneud perfformiadau'n dechnegol anhygoel.
Bydd y rhaglen Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu arloesol hon yn eich ysbrydoli i ddatblygu eich llais artistig eich hun a gwneud cysylltiadau parhaol o fewn y byd cyfansoddi caneuon.
Pam Prifysgol De Cymru?
Cynnal yr Wyl Immersed! bob blwyddyn; Mae Immersed yn Ŵyl amlgyfrwng wedi’i chyflwyno gan fyfyrwyr Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru
Pam Prifysgol De Cymru?
Roedd 90% o fyfyrwyr BA (Anrh) Cynhyrchu Cerddoriaeth PDC yn fodlon ar eu cwrs (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024)
-
Cynnal yr Wyl Immersed! bob blwyddyn; Mae Immersed yn Ŵyl amlgyfrwng wedi’i chyflwyno gan fyfyrwyr Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru
Eich Profiad Myfyrwyr
Astudiwch yng nghanol Caerdydd
Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.