Byddwch Yn Rhan O'r Cyffro

Graddau Cyfrifiadura

Mae ein haddysgu arobryn yn mynd â thalent y dyfodol i lefel hollol newydd, gan adael i chi brofi cyfrifiadura yn y byd go iawn wrth astudio am yrfa ynddo.

Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
Graduates Savva, Sam and Niamh, sat together on chairs chatting in front of red backdrop

Mae cyfrifiadura ym Mhrifysgol De Cymru wedi'i gynllunio nid yn unig gyda'r diwydiant mewn golwg, ond mae'n cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan bartneriaid proffesiynol a staff â chysylltiadau da. Darganfyddwch ystod amrywiol o yrfaoedd digidol, wedi'u haddysgu mewn cyfleusterau trawiadol sy'n efelychu'r diwydiant ei hun, ac yn sicr o gael sylw i chi ynddo.


Pam astudio cyfrifiadura?

Graddau sy'n barod ar gyfer diwydiant

Mae ein holl gyrsiau’n cael eu datblygu mewn partneriaeth â diwydiant, felly byddwch yn graddio gyda’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Cyfleusterau wedi'u hadeiladu o'r dyfodol

Fe welwch y caledwedd a’r meddalwedd diweddaraf sy’n cadw ein cyrsiau’n gyfredol, ynghyd â mannau pwrpasol.

Arbenigedd arobryn

Rydyn ni wedi cael ein henwi yn Brifysgol Seiber y Flwyddyn yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol am bedair blynedd yn olynol(ac yn cyfri).

Cyrsiau Cyfrifiadura

Cyfrifiadureg - BSc (Anrh)

Mae sgiliau cyfrifiadurol yn ddymunol ac yn drosglwyddadwy; crëwch yrfa lewyrchus yn y dyfodol gyda'r cwrs ymarferol hwn.


Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth - MSc

Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r sgiliau hynny i helpu i ddatrys problemau yn y byd go iawn a datblygu i fod yn weithiwr TG proffesiynol cyflawn a chyflogadwy.


Cyfrifiadureg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Dewch i ymuno ag un o'n digwyddiadau Diwrnod Agored i ymweld â'n labordai technoleg, i gwrdd â'n tîm ac i gael blas o’n cwrs, byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi!


Cyfrifiadureg Gymhwysol (Atodol) - BSc (Anrh)

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol i lefel uwch ac i archwilio pynciau arbenigol.


Deallusrwydd Artiffisial - MSc

Datblygwch y sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant er mwyn gweithio ym maes deallusrwydd artiffisial a pheirianneg dysgu peirianyddol. Rhowch hwb i’ch gyrfa ym myd technoleg ddeallus.


Gwyddor Gyfrifiadurol - BSc (Anrh)

Wedi cyrraedd y brig yng Nghymru am foddhad myfyrwyr gan Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2023, mae’n gradd Cyfrifiadureg BCS achrededig yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn datblygu meddalwedd diogel. Ennill sgiliau ymarferol drwy brosiectau yn y byd go iawn, gan ddatblygu atebion diogel a dibynadwy i broblemau bywyd go iawn.


Gwyddor Gyfrifiadurol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Wedi'i hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiaduron Prydain a'i chreu mewn partneriaeth â diwydiant a myfyrwyr, mae'r rhaglen hon yn sicrhau bod graddedigion yn greadigol ac yn fedrus, ac yn gallu adeiladu'r dyfodol gyda systemau deallus, effeithiol, effeithlon a dibynadwy. Mae'r flwyddyn sylfaen yn darparu ffordd o gael mynediad i'r maes cyffrous hwn i'r rheini sydd efallai'n dychwelyd i astudio, neu sydd angen magu hyder fel arall.


Gwyddor Gyfrifiadurol Uwch - MSc

Darganfyddwch y technolegau meddalwedd a chaledwedd diweddaraf, o grynhoi i ddiogelwch. Paratowch eich hun i ddatrys problemau’r byd go iawn, gan ddeall yr effaith ddwys ar fywydau pobl. Ymunwch â ni ar flaen y gad ym maes arloesedd technolegol.


Buddsoddwch yn eich dyfodol

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.


Graddau Seiberddiogelwch

Diddordeb ym myd seiberddiogelwch? Porwch ystod o gyrsiau seiber achrededig.

Pori Cyrsiau
computing student working at computer, with images of video games on the wall above
  • Prifysgol Seiber Y Flwyddyn 2019-2022

Mae Gwyddor Gyfrifiadurol a Systemau Gwybodaeth yn PDC ar y brig yng Nghymru ar gyfer ansawdd addysgu

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025
  • Prifysgol Seiber Y Flwyddyn 2019-2022


EIN HYMCHWIL YN PDC

An abstract 3D illustration of a circuit board with futuristic server code processing showing an orange, green, and blue technology background with bokeh

MAE TG YN DARPARU CYFLEODD I WEITHIO MEWN CYMAINT O WAHANOL SECTORAU A ROLAU, SY'N WYCH AR GYFER DILYNIANT GYRFA.

Hamed Amiri

BSc (Anrh) Cyfrifiadureg

BYSSWYN YN ARGYMELL BLWYDDYN LLEOLIAD L BOB MYFYRIWR. BELLACH MAE GEN I 5 MES FEL DATBLYGWR IAU O DAN FY NGWREGYS.

Sean Vowles

BSc (Anrh) Cyfrifiadureg

Astudiwch yng nghanol Pontypridd

Mae ein campws yn Nhrefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


Sunlight breaking over the Accommodation Hub.

The University Acccommodation Hub, Pontypridd Campus.

Aerospace Centre, Pontypridd Campus.

Mountain Halls building front.

A view of the Students' Union building front at Treforest.

Diwrnodau Agored i ddod

Open Day visitors walking through the Treforest campus. There is a large red open day banner behind them.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru