Diwydiannau Creadigol

TROCHWCH EICH HUN

Mae Immersed yn Ŵyl amlgyfrwng wedi’i chyflwyno gan fyfyrwyr Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth â’r gymuned leol er budd yr elusen newid hinsawdd, Music Declares Emergency.

Diwydiannau Creadigol Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
Wall of a building covered in logs of Immersed Festival and USW

Gan gydweithio â'r diwydiant, mae myfyrwyr yn cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau a gafwyd yn eu cyrsiau penodol i ymgysylltu â phob agwedd ar raglennu cerddoriaeth, perfformio, hyrwyddo, a chynhyrchu gŵyl fyw.


Immersed 2024

Mae Immersed wedi datblygu o raglen a oedd yn cynnwys bandiau myfyrwyr ar y dechrau, i gynnwys perfformwyr aml-blatinwm a’r rhai sydd wedi ennill gwobrau Ivor Novello fel Richard Ashcroft, Peter Doherty, Tom Greenham, Bang Bang Romeo a Lady Leshurr, gan werthu pob tocyn mewn lleoliad ar gyfer 1,000 o bobl yng nghanol y ddinas, Tramshed.

Dychwelodd y chweched Ŵyl Immersed i Tramshed Caerdydd ar ddydd Sadwrn 2 Mawrth gyda rhaglen drawiadol o gerddoriaeth, ffilm, celf, ffasiwn a theatr. Prif berfformiwr yr ŵyl oedd BOB VYLAN sydd wedi ennill gwobr MOBO, gyda perfformiad bythgofiadwy yng nghanol casgliad o dalent eithriadol a phrofiadau gŵyl unigryw.


Music Declares Emergency

Rydym yn partneru â Music Declares Emergency i dynnu sylw at effeithiau newid hinsawdd er mwyn helpu i hyrwyddo newid tuag at ddyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy. Ymunwch â mudiad byd-eang, cefnogwch thema’r ŵyl sef “Iwtopiâu yn y dyfodol”, a chewch eich trochi yn yr Ŵyl Immersed.

Darganfod mwy am Music Declares Emergency