Diwydiannau Creadigol

Ysgol Ffilm a Theledu

Wedi ei ddatblygu ym Mhrifysgol De Cymru, mae Ysgol Ffilm a Theledu Cymru yn torri tir newydd o ran addysg yn y Diwydiannau Creadigol.

Diwydiannau Creadigol Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
A student using a film camera in front of a green screen.

Wrth ddefnyddio ein profiad helaeth, cysylltiadau â’r diwydiant a’n lleoliad godidog yng nghalon Caerdydd, byddwn yn rhoi’r cyfleoedd gorau i fyfyrwyr ddatblygu gyrfa lwyddiannus mewn ffilm a theledu yn yr 21 ganrif.


  • Boed eich diddordeb mewn cyfarwyddo, golygu, rheoli cynhyrchiad, dylunio set, animeiddio neu effeithiau gweledol, bydd ein cwricwlwm eang a pherthnasol yn darparu’r sgiliau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnoch i ymuno ag un o ddiwydiannau mwyaf dynamig y DU.

  • Mae Ysgol Ffilm a Theledu Cymru yn seiliedig ar dros 50 mlynedd o addysg ffilm ym Mhrifysgol De Cymru, sef, Ysgol Ffilm Casnewydd, gynt. Ymhlith ein Graddedigion mae’r enillydd Oscar, Asif Kapadia (Senna, Amy), Phil John (Downton Abbey, Being Human), a channoedd o bobl eraill sy’n gweithio ar y lefelau uchaf mewn ffilm a theledu ledled y byd.

  • Rydyn ni eisiau dathlu talent creu ffilmiau pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau. Rydyn ni wedi creu cyfres o wobrau newydd, ar y cyd ag IntoFilm a Screen Alliance Wales i ddathlu gwaith anhygoel ein pobl ifanc greadigol.


Cyfleusterau

 ninnau wedi ein lleoli ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd, caiff ein lleoliad canolog trawiadol ei gydweddu gan yr adnoddau ffilm a chyfryngau gorau yng Nghymru, yn cynnwys:

Stiwdios ffilm a theledu

Gwagleoedd perfformio ac ymarfer

Ystafelloedd graddio a golygu

Theatrau dybio

Stiwdios newydd ar gyfer cipio llun symudiad a sgrin werdd

Dwy sinema sgrinio

Â'r holl adnoddau hyn o dan yr un to, rydym wedi creu cyfleoedd anferthol i ddatblygu eich sgiliau a chydweithio gyda myfyrwyr ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.


video-his-dark-materials.jpg

Ein Partneriaid

Rydym yn falch o gydweithio ag amrywiaeth eang o sefydliadau yn y diwydiant yng Nghymru a thu hwnt, yn cynnwys BBC Cymru, Channel 4, S4C, BAFTA Cymru, RTS Wales, Ffilm Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â nifer o bartneriaid addysgiadol allweddol ledled De Cymru yn cynnwys: Coleg Pen-y-bont, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent, Coleg y Cymoedd a Choleg Merthyr Tudful. Gyda’n gilydd, rydym yn cynnig graddau sylfaen ac HNDau sy’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu haddysg ymhellach yn y Diwydiannau Creadigol.  

Mae Ysgol Ffilm a Theledu Cymru hefyd yn un o’r ychydig Aelodau Llawn o CILECT yn y DU, sef y Gymdeithas Ryngwladol fawreddog o Ysgolion Ffilm a Theledu sy’n cynrychioli’r ysgolion ffilm gorau o bob rhan o’r byd.