Profwch Y Sbotolau

Drama a Pherfformio

Trwy berfformiad gallwch ddod yn unrhyw un, unrhyw le, ar unrhyw bryd.

Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
A group of people in a drama studio clapping

Mae ein holl raddau perfformio yn eich arfogi â chydbwysedd gwych o weithgaredd ymarferol, perfformiadau byw a theori, ac maent wedi'u cynllunio i roi'r sgiliau i chi adeiladu eich gyrfa.


Pam DRAMA A PHERFFORMIO yn PDC?

Cyfleusterau trawiadol

Mae PDC Caerdydd yn ganolbwynt creadigol. Mae'n cynnwys awditoriwm 160 sedd gyda llawr llwyfan sbring a rig goleuo llawn. Mae gan fyfyrwyr hefyd fynediad i'n stiwdios dawns a gofodau drama, pedair theatr stiwdio blwch du a dwy stiwdio ffilm broffesiynol. 

Dod o hyd i'ch llwybr gyrfa

Mae natur hyblyg ein graddau drama a pherfformio yn golygu y gallwch ganolbwyntio ar eich diddordebau a’ch nodau gyrfa. Mae ein modiwlau yn eich galluogi i astudio theatr, ffilm, teledu a radio, actio, cyfarwyddo, hanes a damcaniaethau theatr a pherfformio, llais a symudiad a phopeth rhyngddynt.

Lleoliadau o'r radd flaenaf

Mae astudio yng Nghaerdydd yn golygu y bydd gennych chi leoliadau a chwmnïau cynhyrchu o safon fyd-eang ar garreg eich drws, gan gynnwys pencadlys BBC Cymru, canolfan gynhyrchu fawr yn y DU (Dr Who, Torchwood), Bad Wolf, National Theatre Wales a’r Opera Cenedlaethol Cymru ymhlith eraill.

Cyrsiau Drama a Pherfformio

Drama - MA

P'un a ydych chi'n artist profiadol sy'n dymuno cael yr amser a'r lle i ddatblygu eich ymarfer neu'n dechrau ar eich gyrfa fel gwneuthurwr theatr, ymarferydd drama, storïwr neu addysgwr, bydd y cwrs MA Drama yn eich helpu i gyflawni eich potensial.


Perfformio a'r Cyfryngau - BA (Anrh)

Byddwch yn astudio'r prif fathau o gyfryngau fel theatr, ffilm, teledu a radio trwy waith academaidd ac ymarferol. Byddwch yn archwilio cynhyrchu syniadau newydd mewn arferion perfformio digidol, rhyngweithiol ac amlgyfrwng hefyd.


Theatr a Drama - BA (Anrh)

Mae gyrfa mewn Cyfrifeg a Chyllid yn cynnig posibiliadau diddiwedd – y cyfle i weithio wrth galon unrhyw sefydliad, her ddyddiol ac amrywiaeth, hyfforddiant busnes byd-enwog a chymwysterau siartredig, cyflogau cystadleuol, sicrwydd swyddi a chyfleoedd teithio.


MAE’R CYFLEUSTERAU’N WYCH I FYFYRWYR CREADIGOL, AC ROEDD BOD YNG NGHANOL CAERDYDD YN WYCH HEFYD.

Andy Wain

PDC Raddedigion

student-25

Astudiwch yng nghanol Caerdydd

Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


Abstract view of the University's Cardiff Campus.

A view of Atrium building in Cardiff

A view of a Cardiff Campus building featuring the University logo.

Exterior view of the University's Cardiff Campus.

A view of the spiral stairwell set in the main foyer of Cardiff Campus.

Diwrnodau Agored i ddod

Communal sofas at the Cardiff Campus.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru