/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/advertising/Sven-Krister-Marnot.jpg)
Mae cyfleusterau PDC fel mynediad i Adobe, stiwdio fideos ac offer i’w rentu wedi bod yn adnoddau gwych.
Dod o hyd i’r llwybr cywir yn PDC
Dw i wedi bod yn angerddol dros greadigrwydd erioed. Dw i’n meddwl bod hyn yn rhannol oherwydd fy chwaer sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant creadigol. I ddechrau, ro’n i’n astudio rheolaeth fusnes yn America ond ro’n i eisiau mynd ar drywydd rhywbeth mwy artistig. Pan ddes i o hyd i gwrs hysbysebu PDC, roedd yn ymddangos yn berffaith, yn enwedig gan fod Caerdydd yn nes at adref ac yn fwy fforddiadwy na dinasoedd eraill y DU. Er na wnes i fynd i Ddiwrnod Agored, ro’n i’n teimlo’n hyderus am fy mhenderfyniad.
Mae’r cyfleusterau yn PDC, fel mynediad i feddalwedd Adobe, stiwdio fideos ac offer i’w rentu wedi bod yn adnoddau gwych. Mae cymuned greadigol Caerdydd yn hynod gefnogol, hyd yn oed os yw’n fach o gymharu â Llundain. Mae’n teimlo fel man cychwyn mwy hygyrch.
Dewch o hyd i'ch cwrsEnnill profiad ac edrych tua’r dyfodol
Hyd yma, mae’r cwrs wedi rhoi profiad ymarferol i mi fel gweithio gyda Welsh Brew Tea ar friff byw a chreu ymgyrch ar gyfer Lego, wnaeth fy helpu i ddeall y diwydiant yn well. Fy hoff ran yw’r gwaith cwrs amrywiol a’r cymorth personol rydyn ni’n ei gael gan ein tiwtoriaid, sydd wir yn gwrando ar ein syniadau.
Ar ôl graddio, dw i’n gobeithio gweithio i fyny i rôl cyfarwyddwr creadigol, gan ddechrau fel ysgrifennwr copi i ddatblygu fy sgiliau. Yn y pen draw, bydden i wrth fy modd yn gweithio yn y DU neu Ewrop ac, un diwrnod, dychwelyd i Estonia i gyfrannu at y diwydiant yn fanno.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Dylunio?
Mae ein cyrsiau dylunio yn cael eu creu gyda diwydiant mewn golwg a'n nod yw eich paratoi ar gyfer y gweithle erbyn i chi raddio.