Rhyddhewch eich creadigrwydd a dylunio'r dyfodol

GRADDAU FFASIWN

Mae graddau ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru yn archwilio ac yn meithrin y cysylltiad rhwng masnacholdeb a chreadigedd.

Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
A model walking down a catwalk in a bright orange dress

Ein nod yw cynhyrchu graddedigion ffasiwn â gweledigaeth sy'n barod ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y byd manwerthu a ffasiwn. Mae gan ein graddedigion y sgiliau a'r wybodaeth i ragori yn y diwydiant ffasiwn, ac rydym yn eu paratoi i ddod yn wynebau dylunio yn y dyfodol.


Pam Ffasiwn yn PDC?

Cyfleoedd gyfra

Ym Mhrifysgol De Cymru mae gennym ni gysylltiadau anhygoel â'r diwydiant ffasiwn. Mae ein myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau 'byw' gyda brandiau go iawn sydd wedi cynnwys rhai fel Next a Topshop.

Wythnos Ffasiwn Prydain

Rydym yn gysylltiedig ag Wythnos Ffasiwn Graddedigion. Bob blwyddyn, mae ein myfyrwyr yn arddangos eu prosiectau blwyddyn olaf yn y digwyddiad, lle mae brandiau ffasiwn gorau a'r gorau yn y busnes yn mynychu.

Staff  Arbenigedd byd-eang

Mae gan ein staff flynyddoedd o brofiad byd-eang cyfunol a gwybodaeth ymarferol o'r diwydiant ffasiwn felly gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwch mewn dwylo diogel gyda'n tîm sydd bob amser ar gael i roi arweiniad pan fyddwch ei angen.

Cyrsiau Ffasiwn

Busnes a Marchnata Ffasiwn - BA (Anrh)

Dyma’r cwrs delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gwirioni ar ffasiwn, ac sydd â meddwl busnes, ond sydd ddim eisiau ‘gwneud’ dillad.

Ffasiwn Saved

Dylunio Ffasiwn - BA (Anrh)

Gwthiwch y ffiniau ym maes dillad, byddwch yn ddewr a dewch â'ch dyluniadau’n fyw gyda'n gradd Dylunio Ffasiwn.


Hyrwyddo Ffasiwn - BA (Anrh)

Hyrwyddo Ffasiwn yw’r maes sy’n cyfuno ffasiwn, marchnata a’r cyfryngau. Byddwch yn astudio ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cyffrous hwn lle mae technoleg, diwylliant a thueddiadau yn rhoi ysbrydoliaeth i ymgyrchoedd hysbysebu a ffyrdd eiconig o gyfathrebu.


Pam Prifysgol De Cymru?

Ymhlith y deg uchaf yn y DU

ar gyfer asesu Ffasiwn a Thecstilau (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024)

  • Cyfleoedd interniaeth mewn brandiau ffasiwn byd-eang sydd wedi cynnwys Ralph Lauren, Raeburn, L’Oreal ac Glamour Magazine 

  • Bob blwyddyn rydym yn cymryd amser i ddathlu gwaith ein myfyrwyr Cyfadran y Diwydiant Creadigol trwy ŵyl o'r enw 'Gradfest'. 

Pam Prifysgol De Cymru?

Ar y brig yng Nghymru

Mae Ffasiwn a Thecstilau yn PDC yn 7fed yn y DU ac ar y brig yng Nghymru ar gyfer Ansawdd Addysgu (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025)

  • Cyfleoedd interniaeth mewn brandiau ffasiwn byd-eang sydd wedi cynnwys Ralph Lauren, Raeburn, L’Oreal ac Glamour Magazine 

  • Bob blwyddyn rydym yn cymryd amser i ddathlu gwaith ein myfyrwyr Cyfadran y Diwydiant Creadigol trwy ŵyl o'r enw 'Gradfest'. 


Stori Joseph

Joseph Thomas is sitting at a sewing machine in the fashion studios.

Astudiwch yng nghanol Caerdydd

Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


Abstract view of the University's Cardiff Campus.

A view of Atrium building in Cardiff

A view of a Cardiff Campus building featuring the University logo.

Exterior view of the University's Cardiff Campus.

A view of the spiral stairwell set in the main foyer of Cardiff Campus.

Diwrnodau Agored i ddod

Communal sofas at the Cardiff Campus.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru