GRADDAU FFASIWN
Mae graddau ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru yn archwilio ac yn meithrin y cysylltiad rhwng masnacholdeb a chreadigedd.
Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod AgoredEin nod yw cynhyrchu graddedigion ffasiwn â gweledigaeth sy'n barod ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y byd manwerthu a ffasiwn. Mae gan ein graddedigion y sgiliau a'r wybodaeth i ragori yn y diwydiant ffasiwn, ac rydym yn eu paratoi i ddod yn wynebau dylunio yn y dyfodol.
Pam Ffasiwn yn PDC?
Cyrsiau Ffasiwn
Dyma’r cwrs delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gwirioni ar ffasiwn, ac sydd â meddwl busnes, ond sydd ddim eisiau ‘gwneud’ dillad.
Gwthiwch y ffiniau ym maes dillad, byddwch yn ddewr a dewch â'ch dyluniadau’n fyw gyda'n gradd Dylunio Ffasiwn.
Hyrwyddo Ffasiwn yw’r maes sy’n cyfuno ffasiwn, marchnata a’r cyfryngau. Byddwch yn astudio ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cyffrous hwn lle mae technoleg, diwylliant a thueddiadau yn rhoi ysbrydoliaeth i ymgyrchoedd hysbysebu a ffyrdd eiconig o gyfathrebu.
Pam Prifysgol De Cymru?
Ymhlith y deg uchaf yn y DU
ar gyfer asesu Ffasiwn a Thecstilau (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024)
-
Cyfleoedd interniaeth mewn brandiau ffasiwn byd-eang sydd wedi cynnwys Ralph Lauren, Raeburn, L’Oreal ac Glamour Magazine
-
Bob blwyddyn rydym yn cymryd amser i ddathlu gwaith ein myfyrwyr Cyfadran y Diwydiant Creadigol trwy ŵyl o'r enw 'Gradfest'.
Pam Prifysgol De Cymru?
Ar y brig yng Nghymru
Mae Ffasiwn a Thecstilau yn PDC yn 7fed yn y DU ac ar y brig yng Nghymru ar gyfer Ansawdd Addysgu (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025)
Cyfleoedd interniaeth mewn brandiau ffasiwn byd-eang sydd wedi cynnwys Ralph Lauren, Raeburn, L’Oreal ac Glamour Magazine
Bob blwyddyn rydym yn cymryd amser i ddathlu gwaith ein myfyrwyr Cyfadran y Diwydiant Creadigol trwy ŵyl o'r enw 'Gradfest'.
Stori Joseph
Eich Profiad Myfyrwyr
Astudiwch yng nghanol Caerdydd
Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.