Byddwch Yn Rhan O'r Cyffro

Graddau Gwyddorau Amgylcheddol

Mae’r heriau a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd a phwysau amgylcheddol eraill yn bygwth ein hamgylchedd naturiol a’n hiechyd, ein heconomi a’n seilwaith, ond mae angen inni ddarparu atebion ymarferol.

Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
a student in USW overalls conducts an experiment involving electronic equipment in a laboratory

Mae ein cyrsiau Gwyddorau Amgylcheddol yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau a datrys problemau newid hinsawdd, adnoddau adnewyddadwy, llygredd amgylcheddol, cadwraeth ar gyfer bioamrywiaeth a rheolaeth amgylcheddol.


Pam GWYDDORAU AMGYLCHEDDOL yn PDC?

Cyfrannu at waith ymchwil, mynd i'r afael â heriau amgylcheddol a'u datrys 

Gweithio ar brosiectau amgylcheddol allanol ar gyfer endidau lleol, cenedlaethol a byd-eang

Cyfleoedd lleoliad a gwaith maes sy’n cyfrannu at astudio sy'n gyfoethog o ran profiad

Datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ystod eang o yrfaoedd yn y sector amgylcheddol

Mae ein cyrsiau yn cynnig

  • Mae ein graddau wedi’u trefnu’n gyfres o themâu, pob un yn cysylltu â’r sector amgylcheddol. Mae'r themâu hyn yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, adnoddau adnewyddadwy ac ynni, bioamrywiaeth a chadwraeth, llygredd amgylcheddol, datblygu cynaliadwy, a rheolaeth amgylcheddol. Gallwch chwarae rhan allweddol wrth ddarparu atebion i'r heriau niferus y mae ein hamgylchedd yn eu hwynebu.

  • Byddwch yn datblygu eich sgiliau a'ch profiad wrth i chi weithio ar brosiectau amgylcheddol allanol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Bydd hyn yn eich galluogi i gael effaith gadarnhaol a thrawsnewidiol wrth i chi gynnwys cymdeithas, busnes a'r llywodraeth mewn atebion yn y dyfodol ar gyfer datblygu amgylcheddol cynaliadwy.

  • Mae nifer y swyddi sy'n gysylltiedig â'r economi werdd yn tyfu'n gyflym, gan gynnwys swyddi sy'n talu'n dda wrth i lawer o sefydliadau a busnesau geisio lleihau eu heffaith amgylcheddol fwyfwy. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio gyda diwydiant i ganolbwyntio ar gyflogaeth a bydd yn rhoi gwybodaeth, hyfforddiant a phrofiad i chi ym mhob un o'r sectorau allweddol ar gyfer cwrdd â heriau amgylcheddol y dyfodol.


Cyrsiau Gwyddorau Amgylcheddol

Gwaith Maes Gwyddorau Amgylcheddol

A scuba diver makes notes under water while studying a coral reef which is surrounded by a measuring tape

PAM PRIFYSGOL DE CYMRU?

Pedwerydd yn y DU

ar gyfer addysgu Gwyddorau Daear a Môr (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024)

PAM PRIFYSGOL DE CYMRU?

mae 100%

o effaith ein hymchwil yn y Gwyddorau Amgylcheddol yn rhagorol yn rhyngwladol

Unedau asesu gwyddorau amgylcheddol REF

Astudiwch yng nghanol Pontypridd

Mae ein campws yn Nhrefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


Sunlight breaking over the Accommodation Hub.

The University Acccommodation Hub, Pontypridd Campus.

Aerospace Centre, Pontypridd Campus.

Mountain Halls building front.

A view of the Students' Union building front at Treforest.

Diwrnodau Agored i ddod

Open Day visitors walking through the Treforest campus. There is a large red open day banner behind them.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru