Byddwch Yn Rhan O'r Cyffro

GRADDAU GWYDDORAU BIOLEGOL

Astudiaeth wyddonol o fywyd yw bioleg. Mae'n effeithio ar bopeth. Anaml y bydd diwrnod yn mynd heibio heb i ryw bwnc cysylltiedig â bioleg ymddangos ar y tudalennau blaen nac ar ein sgriniau teledu, boed yn ymwneud â chnydau a addaswyd yn enetig, meddygaeth drofannol, ffarmacoleg, anatomeg a ffisioleg neu imiwnoleg a firoleg.

Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
student holding skull which is partly painted red and blue in certain areas

Gyda’r cyfuniad cywir o wybodaeth wyddonol, profiad ymarferol a gwaith maes rhyfeddol, rhyngwladol yn aml, mae ein graddedigion Gwyddorau Biolegol yn wyddonwyr cyflawn. Mae Prifysgol De Cymru hefyd yn cynnig graddau yn y Gwyddorau Meddygol lle byddwch yn astudio meysydd fel anatomeg, biocemeg a ffisioleg.


GWYDDOR FIOLEGOL YW HON

Croeso i le o gyferbyniadau ysbrydoledig. Gyda phum campws ar draws tri lleoliad, gallwch fwynhau bwrlwm y dinasoedd, harddwch yr arfordir a thawelwch cefn gwlad

biology student standing in a biology lab using a syringe to move liquid
international wildlife biology student zoe in a lab completing analysis of a land snail
group of international wildlife biology students in lab looking at skulls

CREU GWYDDONWYR Y DYFODOL

A student in a lab coat and gloves uses a pipette in a science experiement.

Cyfleusterau trawiadol gyda labordai pwrpasol ac offer arbenigol

Three students walking through St David's shopping centre.

Teithiau maes i leoliadau ledled y byd i ddatblygu sgiliau ac ennill profiad

A scientist in a lab coat and glasses looks intently into a microscope

Wedi'i addysgu a'i arwain gan ddarlithwyr sy'n arbenigwyr yn y diwydiant

Students wearing graduation robes and caps cheer and clap for their peers during their graduation ceremony

Ffocws ar gyflogadwyedd a gyrfaoedd, gan lenwi'r galw am raddedigion

Mae ein cyrsiau yn cynnig

  • Mae galw mawr am raddedigion Gwyddor Biolegol. Mae graddedigion ein gradd bioleg wedi dod o hyd i waith mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys ymgynghoriaeth amgylcheddol, labordai ysbytai, y diwydiant bwyd a diod, ac addysgu. Mae llawer o israddedigion bioleg yn symud ymlaen i radd ôl-raddedig mewn bioleg neu radd gwyddoniaeth.

  • Gyda’r cyfuniad cywir o wybodaeth wyddonol, profiad ymarferol a gwaith maes rhyfeddol, rhyngwladol yn aml, mae ein graddedigion Gwyddorau Biolegol yn wyddonwyr cyflawn. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau gwyddonol ar deithiau maes yn y DU, ac yn cael y dewis i gymhwyso technegau ymchwil yng nghoedwigoedd trofannol a riffiau cwrel Asia neu Ganol America.

  • Mae ein labordai George Knox yn rhan o fuddsoddiad gwerth £15m mewn gwyddoniaeth ar gyfer y Brifysgol, sy’n golygu y byddwch yn cael eich addysgu mewn gofodau newydd gydag offer da. Mae'r rhain yn ymuno ag adeilad rhestredig Gradd II Alfred Russel Wallace a ddefnyddir hefyd ar gyfer addysgu.

  • Mae cwrs yn PDC yn fwy na gradd yn unig. Rydym yn creu graddedigion sy'n barod ar gyfer yfory. Pobl sy'n barod i adeiladu eu gyrfaoedd ac sydd â'r meddylfryd i lwyddo trwy radd sy'n canolbwyntio 100% ar yr hyn sydd ei angen ar gyflogwyr yn y dyfodol. O brosiectau sy'n seiliedig ar arferion gwaith i amser yn y gweithle i interniaethau a lleoliadau, byddwn yn eich helpu i feithrin sgiliau sy'n barod am swydd ac ennill profiad perthnasol ar gyfer eich gyrfa. Rydym hefyd yn cynnig cymorth ymarferol gyda chwblhau ceisiadau am swyddi ac ymarfer technegau cyfweliad. Mae cefnogaeth ar gael bob cam o'r ffordd.


Cyrsiau Gwyddorau Biolegol

Bioleg - BSc (Anrh)

Archwiliwch y wyddoniaeth sylfaenol hon yn fanwl, gan ddarganfod y prosesau esblygiadol, ffisiolegol, moleciwlaidd ac ecolegol sy'n cymell holl fywyd ar y Ddaear. Gan gyfuno cyfleoedd gwaith maes rhagorol gyda chyfleusterau arloesol, byddwch chi’n ennill gwybodaeth eang, ac yna'n dewis arbenigo mewn pwnc yn y radd gynhwysfawr hon.


Bioleg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Archwiliwch y wyddoniaeth greiddiol hon yn fanwl, a darganfyddwch y prosesau esblygiadol, ffisiolegol, moleciwlaidd ac ecolegol sy'n cymell holl fywyd y Ddaear.


Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt - BSc (Anrh)

Taflwch eich hun i ganol profiad ymdrochol o ecoleg a chadwraeth bywyd gwyllt gyda gwaith maes ymarferol ar dri chyfandir. Datblygwch sgiliau i ddeall, rheoli a chynnal bywyd gwyllt mewn byd sy'n newid.


Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Taflwch eich hun i ganol profiad ymdrochol o ecoleg a chadwraeth bywyd gwyllt gyda gwaith maes ymarferol ar dri chyfandir. Datblygwch sgiliau i ddeall, rheoli a chynnal bywyd gwyllt mewn byd sy'n newid.


Gwyddor Fiofeddygol - BSc (Anrh)

Archwiliwch ryfeddodau'r corff dynol, o systemau organ gwahanol i fiocemeg, geneteg a bioleg gellol.  


Gwyddor Fiofeddygol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Rydym yn archwilio'r prosesau clefydau yn y systemau hyn, sut y gellir ymchwilio iddynt, sut mae triniaethau'n gweithio a sut y gellir ymchwilio i driniaethau newydd a'u datblygu.


Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan bobl sy'n cynnig swyddi - ac yn cael eu haddysgu gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn.


Astudiwch yng nghanol Pontypridd

Mae ein campws yn Nglyn-taf yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


The University's Alfred Russell Wallace building set behind foliage.

Abstract close up shot of the George Knox building.

The University's Bernard Knight building.

Exterior shot of the University Clinical Simulation Centre, Tramsheds.

Exterior close up shot of the Aneurin Bevan building.

Diwrnodau Agored i ddod

A student ambassador, wearing red USW sunglasses and a branded tshirt, dancing outside at the Glyntaff campus.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru