Byddwch Yn Rhan O'r Cyffro

GRADDAU GWYDDORAU CEMEGOL A FFERYLLOL

Mae galw mawr am raddedigion medrus gwyddoniaeth sy’n seiliedig ar gemeg, felly os mai’ch uchelgais yw darganfod y cyffur poblogaidd nesaf neu ymateb i’r her o addysgu gwyddoniaeth, ein cyrsiau ni yw’r cam cyntaf tuag at gyflawni’ch nod.

Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
dwy fyfyrwyr benywaidd yn mwynhau gweithio gydag offer labordy cemeg

Rydym yn cynnig detholiad o raddau, felly gallwch arbenigo mewn maes sydd o ddiddordeb i chi. Mae gennym hefyd gyrsiau blwyddyn sylfaen a chyfleoedd MSci ar ein cyrsiau Gwyddorau Cemegol a Fferyllol. Mae cyflogwyr wedi’u plesio gan brofiad a gwybodaeth ein myfyrwyr o ddulliau ac offer dadansoddol, sy’n berffaith pan fyddwch chi’n dechrau eich gyrfa yn y diwydiant amrywiol hwn.


Pam PDC?

I'ch gwneud yn barod ar gyfer y gweithle

Mae'r sgiliau a gewch o radd mewn cemeg yn cael eu gwerthfawrogi mewn proffesiynau eraill, er enghraifft, i hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd mewn cyfraith patentau neu gyfrifeg.

Cyrsiau Achrededig

Mae ein cyrsiau wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Frenhinol Cemeg am fodloni'n rhannol y meini prawf academaidd ar gyfer statws Cemegydd Siartredig (CChem).

Cyfleusterau Trawiadol

Mae ein labordai George Knox yn rhan o fuddsoddiad gwerth £15m mewn gwyddoniaeth ar gyfer y Brifysgol, sy’n golygu y byddwch yn cael eich addysgu mewn gofodau newydd sydd ag offer da.

Lleoliadau Diwydiant

Fel rhan o’n cyrsiau, mae myfyrwyr yn cael y cyfle i fynd ar leoliadau yn y diwydiant.

CREU GWYDDONWYR Y DYFODOL

student in chemistry lab using equipment

Fel rhan o’n cyrsiau, mae myfyrwyr yn cael y cyfle i fynd ar leoliadau yn y diwydiant

Chemistry students examining a test tube

Byddwch yn gallu manteisio ar ein buddsoddiad o £15m mewn cyfleusterau gwyddoniaeth

male student using equipment in chemistry lab

Byddwch yn gallu manteisio ar ein buddsoddiad o £15m mewn cyfleusterau gwyddoniaeth

Two students in laboratory coats and blue gloves conduct an experiment in a USW chemistry laboratory

Mae ein maes pwnc Cemeg ar y brig yng Nghymru - Cynghrair y Guardian 2023

CWRDD Â'R TÎM | DR SUZY KEAN

Cwrdd an staff addysgu

Cyrsiau

Cemeg Feddyginiaethol a Biolegol - BSc (Anrh)

Byddwch yn astudio cemeg, tocsicoleg, bioleg, ffisioleg, biocemeg a ffarmacoleg i ddeall y cysylltiadau rhwng clefyd dynol a’r modd i’w atal a’i drin trwy ddylunio cyffuriau. Er mwyn eich paratoi ar gyfer y gweithle, mae’r cwrs hwn yn cynnwys llawer iawn o ddysgu sy’n seiliedig ar waith efelychiadol.

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Cemeg Feddyginiaethol a Biolegol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Byddwch yn astudio cemeg, tocsicoleg, bioleg, ffisioleg, biocemeg a ffarmacoleg i ddeall y cysylltiadau rhwng clefyd dynol a’r modd i’w atal a’i drin trwy ddylunio cyffuriau. Er mwyn eich paratoi ar gyfer y gweithle, mae’r cwrs hwn yn cynnwys llawer iawn o ddysgu sy’n seiliedig ar waith efelychiadol.

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Cemeg Fferyllol - MSc

Mae’r cwrs yn ffocysu ar greu graddedigion cyflogadwy a medrus ar gyfer rolau o fewn y sector fferyllol - un o’r meysydd cyflogaeth mwyaf yn y DU a’r byd, gan ddefnyddio’r cyfleusterau a’r staff arbenigol ym Mhrifysgol De Cymru.

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gwyddor Fferyllol - BSc (Anrh)

Mae byd cymhleth gwyddor fferyllol angen graddedigion sydd nid yn unig â gwybodaeth ragorol ac yn gyfarwydd iawn â labordy, ond sy'n gallu llywio prosesau a fframweithiau'r diwydiant yn hyderus. Dysgwch bopeth sydd ei angen arnoch i sicrhau rôl o fewn cwmnïau fferyllol sy'n gweddu i'ch nodau gyrfa.

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gwyddor Fferyllol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Byddwch yn datblygu gwybodaeth fanwl am bynciau sy’n berthnasol i’r maes fferyllol, eu dyluniad, synthesis/datblygiad, rheoli ansawdd, geneteg a datblygiadau moleciwlaidd modern.

Gwyddorau Cemegol a Fferyllol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Astudiwch yng nghanol Pontypridd

Mae ein campws yn Nglyn-taf yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


The University's Alfred Russell Wallace building set behind foliage.

Abstract close up shot of the George Knox building.

The University's Bernard Knight building.

Exterior shot of the University Clinical Simulation Centre, Tramsheds.

Exterior close up shot of the Aneurin Bevan building.

Diwrnodau Agored i ddod

A student ambassador, wearing red USW sunglasses and a branded tshirt, dancing outside at the Glyntaff campus.

Notice: Undefined index: options in /efs/www.southwales.ac.uk/htdocs/cy/digwyddiadau/config.php on line 220

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru