Graddau Heddlua a Diogelwch
Dechreuwch eich gyrfa gyda hyfforddiant lleoliad trosedd realistig mewn cyfleusterau addysgu trochi.
Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod AgoredWedi’i addysgu gan gyn-staff heddlu sy’n gallu rhannu cyfoeth o wybodaeth weithredol, mae ein cwrs plismona proffesiynol yn cael ei gydnabod gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, gan roi’r fantais gystadleuol honno ichi.
Pam Heddlua a Diogelwch yn PDC?
Cyrsiau Heddlua a Diogelwch
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar faterion allweddol ym maes diogeledd rhyngwladol - y modd y gallwn eu hadnabod a’u rhwystro. Mae’n archwilio materion hollbwysig, megis terfysgaeth, rhyfela hybrid a throseddau cyfundrefnol, ac yn archwilio’r modd y gall sefydliadau, llywodraethau a chwmnïau rhyngwladol reoli risgiau byd-eang o’r fath.
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar faterion allweddol ym maes diogeledd rhyngwladol - y modd y gallwn eu hadnabod a’u rhwystro. Mae’n archwilio materion hollbwysig, megis terfysgaeth, rhyfela hybrid a throseddau cyfundrefnol, ac yn archwilio’r modd y gall sefydliadau, llywodraethau a chwmnïau rhyngwladol reoli risgiau byd-eang o’r fath.
Yn barod i gamu i rengoedd y genhedlaeth nesaf o swyddogion yr heddlu? Byddwch yn gallu cynnal y gyfraith a threfn yn hyderus drwy astudio ar gyfer ein gradd Plismona Proffesiynol.
Mae ein gradd Heddlua Proffesiynol wedi hen ennill ei phlwyf erbyn hyn ac wedi darparu addysg i’r heddlu ers degawdau. Gan adeiladu ar hynny, fe gynlluniwyd y cwrs hwn i ddiwallu anghenion y rhai sy’n gweithio o fewn y sector heddlua.
Ar ôl pasio’r flwyddyn hon yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y radd heddlua proffesiynol sy’n cwrdd â holl ofynion craidd Cwricwlwm Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer gradd mewn Heddlua Proffesiynol cyn ymuno â’r Coleg Heddlua.
Dysgwch sgiliau ymarferol sy'n berthnasol i'r gweithle ac archwilio’r sgiliau gwyddonol, dadansoddol a thechnegol allweddol yn ein cyfleusterau pwrpasol rhagorol.
Pam PDC?
Mae 71%
o ymchwil Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol PDC yn arwain y byd.
Pam PDC?
Mae PDC yn y safle cyntaf yng Nghymru
o ran effaith allan o dair prifysgol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol.
Eich Profiad Myfyrwyr
Astudiwch yng nghanol Pontypridd
Mae ein campws yn Nhrefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.