Byddwch Yn Rhan O'r Cyffro

Graddau Iechyd Perthynol

Mae gan rolau gweithwyr iechyd perthynol proffesiynol un peth yn gyffredin: maent yn chwarae rhan hanfodol wrth drin, adsefydlu a gwella bywydau cleifion.

Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
ODP students gathered around dummy on table watching lecturer perform on dummy.

Rydym yn cynnig cyfleusterau efelychu clinigol anhygoel a chlinigau cleifion allanol sy'n efelychu ystod amrywiol o leoliadau ysbyty, cymunedol a chlinigol.


Pam astudio Iechyd Perthynol?

Eich Dyfodol

Gweithio tuag at yrfa sy'n darparu gofal iechyd sy'n newid bywydau.

Dyblygu Bywyd Go Iawn

Cyfleusterau efelychu clinigol anhygoel a chlinigau cleifion allanol ar y campws.

Ymarfer sy'n gwneud Ymarferwyr

Paratoi ar gyfer ymarfer mewn amgylchedd diogel cyn mynd i mewn i'r gweithle.

Gwneud Gwahaniaeth

Gweithio tuag at yrfa sy'n darparu gofal iechyd sy'n newid bywydau.

Iechyd Perthynol

Ffisiotherapi - BSc (Anrh)

Lluniwyd y radd ffisiotherapi rhan-amser ym Mhrifysgol De Cymru i ddarparu sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu ffynnu fel gweithwyr proffesiynol arloesol ac ymreolaethol ar draws ystod eang o leoliadau o fewn amrywiaeth o leoliadau ymarfer.


Therapi Galwedigaethol - BSc (Anrh)

Fel therapydd galwedigaethol, byddwch yn galluogi a grymuso unigolion, cymunedau, a phoblogaethau i fyw eu bywydau gorau gartref, yn y gwaith ac ym mhobman arall, gan helpu pobl eraill i oresgyn heriau dyddiol, boed hynny’n ddysgu yn yr ysgol, mynd i’r gwaith, cymryd rhan mewn chwaraeon neu rywbeth mor syml â golchi’r llestri.


Ymarfer Adran Lawdriniaeth (YAL) - BSc (Anrh)

Lluniwyd y cwrs hwn i roi’r sgiliau i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu darparu’r gofal mwyaf effeithiol a’r ymarfer mwyaf cyfredol â phosibl, gan eu galluogi i gymhwyso a gwneud cais i gofrestru fel Ymarferydd Adran Lawdriniaeth gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).


Pam Prifysgol De Cymru?

Hyfforddiant clinigol gwarantedig ar leoliad dan oruchwyliaeth arbenigol

Pam Prifysgol De Cymru?

Cyfleusterau efelychu clinigol anhygoel a chlinigau cleifion allanol ar y campws


Astudiwch yng nghanol Pontypridd

Mae ein campws yn Nhrefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


Operating Department Practice students practising technical skills.

Lecturer, Jonathon Duffin using a dummy in the clinical simulation centre during a practical session with students observing

Three health students practicing CPR on a mannequin in the clinical simulation centre

Occupational therapy student attending to a patient in the community flat at the clinical simulation centre

A student simulating a chest examination on a mannequin in the clinical simualtion centre

Diwrnodau Agored i ddod

Open Day visitors walking through the Treforest campus. There is a large red open day banner behind them.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru

Diwrnodau Agored i ddod

A large red open day banner outside Ty Crawshays on a sunny day.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.