/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/41-undergraduate-student/profile-ug-media-production-callum-reed-57320.jpg)
Roedd bod mor agos at ble mae Doctor Who a chynyrchiadau eraill yn cael eu ffilmio yn golygu mai dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer fy astudiaethau.
Diddordeb angerddol a dewis PDC
Dechreuodd fy nhaith i faes cynhyrchu’r cyfryngau gyda chariad dwfn at sioeau fel Doctor Who. Wrth dyfu i fyny, ro’n i’n treulio llawer o amser yn yr ysbyty, ac roedd sioeau fel hyn yn gysur mawr i fi, ac fe wnaethon nhw fy ysbrydoli i greu rhywbeth a allai olygu’r byd i rywun arall. Dros y blynyddoedd, diolch i gyrsiau cynhyrchu a chlybiau ffilm yn yr ysgol a'r coleg, fe es i deimlo’n fwyfwy angerddol dros y maes, a dyna arweiniodd at benderfynu mentro iddo o ddifrif.
Dewisais PDC yn rhannol oherwydd fy mod yn adnabod pobl a oedd wedi dilyn y cwrs Cynhyrchu’r Cyfryngau yma, ac ro’n i wrth fy modd â sîn greadigol Caerdydd. Roedd bod mor agos at ble mae Doctor Who a chynyrchiadau eraill yn cael eu ffilmio yn golygu mai dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer fy astudiaethau. Oherwydd COVID, es i ddim i Ddiwrnod Agored tan ar ôl i fi wneud cais, ond ar ôl i fi ymweld, ro’n i'n gwybod ’mod i wedi gwneud y dewis cywir.
Dewch o hyd i'ch cwrsProsiectau byd go iawn a’r dyfodol
Mae'r cwrs yn cynnig profiad ymarferol anhygoel gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Ry’n ni wedi gweithio ar brosiectau go iawn, fel creu deunyddiau hyrwyddo ar gyfer Undeb Rygbi Cymru, ac wedi cydweithio â chwmnïau ar aseiniadau, sydd wedi rhoi adborth gwerth chweil a blas ar brosesau cydweithredol. Y rhan sydd wedi bod orau i fi yw sgriptio a chreu ffilmiau – a gallu rhoi theori ar waith o’r diwedd.
Ar ôl graddio, rwy'n gobeithio dechrau fel cynorthwyydd cynhyrchu. Mae'r cyfleusterau yn PDC yn wych; mae gennym fynediad at offer sydd o safon gwbl broffesiynol, hyd yn oed ar gyfer ein prosiectau personol, felly rydyn ni'n barod ar gyfer y byd go iawn. Fy nghyngor i? Bachwch ar bob cyfle ac ymchwiliwch i bob agwedd ar y maes. Mae'n gwrs gwych os ydych chi'n angerddol dros y cyfryngau ac yn awyddus i ddysgu.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau?
Mae graddau Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau PDC yn rhoi’r sgiliau ymarferol i ddod yn rhan o’r diwydiant neu gallwch ddewis cwrs seiliedig ar theori sy’n rhychwantu ystod lawn y cyfryngau modern, o newyddiaduraeth brint draddodiadol i flogio, gwneud ffilmiau, radio a chyhoeddi.