Charlotte Brownhill
Mae'r cwrs wedi helpu i gynyddu fy ngwybodaeth ac i gysylltu â diwydiant
Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/14-features/features-charlotte-brownhill.jpg)
Erbyn hyn, mae profiad yn hanfodol wrth gystadlu am swyddi - mae'n gwneud i ddarpar gyflogwyr dalu mwy o sylw i chi.
Dysgu ymarferol drwy leoliadau gwaith
Mae Charlotte Brownhill yn fyfyrwraig BA (Anrh) Y Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth yn ei hail flwyddyn.
"Rwyf wir wedi mwynhau'r cwrs. Rwyf wedi dysgu gwahanol ffyrdd o ymchwilio, ac wedi ennill gwybodaeth newydd am ffilm. Rwyf wedi dod i sylweddoli mor bwysig mae’r cyfryngau cymdeithasol yn newyddiaduraeth y byd digidol sydd ohoni ac rwyf wedi cael fy ysbrydoli i ysgrifennu blog hyd yn oed!
Yn ystod y misoedd nesaf byddaf yn mynd ar leoliad gwaith gyda Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd drwy Ganolfan Ffilm Cymru y mae gan y Brifysgol berthynas dda â hi. Byddaf yn gweithio gyda'r tîm Marchnata ar eu hymgyrch marchnata sinema. Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau gyda’r cyfryngau cymdeithasol ac ysgrifennu datganiadau i'r wasg.
Teimladau am y cwrs ac edrych tua'r dyfodol
Bydd y profiad gwaith yn ddefnyddiol iawn ar gyfer fy astudiaethau ac ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol. Erbyn hyn, mae profiad yn hanfodol wrth gystadlu am swyddi - mae'n gwneud i ddarpar gyflogwyr dalu mwy o sylw i chi. Mae hefyd yn rhoi hwb i'ch hyder ac yn rhoi ymdeimlad i chi o sut mae cwmnïau’n gweithio yn y byd go iawn. Bydd hefyd yn rhoi profiad o faes y sinema a gofynion cynulleidfaoedd sy'n wych ar gyfer fy astudiaethau y mae prosiectau ymchwil yn rhan ohonyn nhw.
Ar ôl graddio, fy mwriad yw dechrau gyrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Hoffwn fynd i'r celfyddydau, efallai’n gysylltiedig ag oriel gelf neu sinema."
Diddordeb mewn Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau?
Mae graddau Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau PDC yn rhoi’r sgiliau ymarferol i ddod yn rhan o’r diwydiant neu gallwch ddewis cwrs seiliedig ar theori sy’n rhychwantu ystod lawn y cyfryngau modern, o newyddiaduraeth brint draddodiadol i flogio, gwneud ffilmiau, radio a chyhoeddi.