/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/41-undergraduate-student/profile-ug-sports-journalism-freddie-owers-57241.jpg)
Rwyf wedi datblygu sgiliau mewn newyddiaduraeth ysgrifenedig, golygu fideo, ffotograffiaeth, y cyfryngau cymdeithasol, a mwy.
Newid cyfeiriad a darganfod PDC
Freddie ydw i, myfyriwr BA (Anrh) Newyddiaduraeth Chwaraeon trydedd flwyddyn yn PDC. Dewisais y cwrs hwn oherwydd ei fod yn dod â fy angerdd dros chwaraeon a fy hoffter o siarad am chwaraeon at ei gilydd yn braf. Yn wreiddiol, roedd gen i le mewn prifysgol arall, ond yn ystod fy mlwyddyn bant dechreuais ailfeddwl fy nghynlluniau. Drwy chwilio yn UCAS , dyma fi’n darganfod y cwrs hwn, a dydw i ddim wedi difaru o gwbl.
Roedd PDC yn apelio ataf i achos ei bod hi’n cynnig y newid roeddwn i eisiau. Roedd symud o Gaergrawnt i Gaerdydd yn teimlo’n gywir rywsut - yn ddigon pell i fod yn brofiad newydd ond yn gyffyrddus ar yr un pryd. Mae byw yng Nghaerdydd wedi bod yn fonws - mae'n ddinas greadigol gyda cherddoriaeth fyw a digwyddiadau chwaraeon di-ben-draw, perffaith ar gyfer myfyriwr newyddiaduraeth.
Dewch o hyd i'ch cwrsEnnill profiad a magu hyder
Ers dechrau’r cwrs, rwyf wedi cael profiadau gwych yn y diwydiant. Yn ystod fy ail flwyddyn, gweithiais gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd am dymor, ac adeiladu cysylltiadau gwerthfawr a chwrdd â phobl ddylanwadol. Rwyf hefyd wedi cael sesiynau hyfforddi cyfryngau gyda phêl-droedwyr enwog ac ar hyn o bryd fi sy’n rheoli’r cyfryngau cymdeithasol ar ran academi Sir Casnewydd. Daeth y cyfleoedd hyn drwy PDC, sydd wedi bod yn allweddol o ran fy nghysylltu â'r diwydiant.
Mae'r cwrs ei hun yn anhygoel o amrywiol. Rwyf wedi datblygu sgiliau mewn newyddiaduraeth ysgrifenedig, golygu fideo, ffotograffiaeth, cyfryngau cymdeithasol, a mwy. Wrth edrych tua’r dyfodol, rwy'n teimlo'n barod ac mae cyfleusterau a chysylltiadau PDC wedi bod o gymorth mawr. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld i ble bydd fy sgiliau yn mynd â fi yn y diwydiant.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau?
Mae graddau Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau PDC yn rhoi’r sgiliau ymarferol i ddod yn rhan o’r diwydiant neu gallwch ddewis cwrs seiliedig ar theori sy’n rhychwantu ystod lawn y cyfryngau modern, o newyddiaduraeth brint draddodiadol i flogio, gwneud ffilmiau, radio a chyhoeddi.