/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/41-undergraduate-student/profile-ug-media-production-theo-wilson-57328.jpg)
Diolch i PDC, rwyf wedi cyfrannu at gynyrchiadau ar gyfer gwyliau fel Green Man.
Cwrs ymarferol a newidiodd fy nghyfeiriad
Roedd fy nhaith i PDC ychydig yn annisgwyl. Yn y chweched dosbarth, bues i’n gweithio fel rhedwr yn Sioe Frenhinol Llanelwedd, a dyma a sbardunodd fy niddordeb yn y cyfryngau, ond do’n i ddim wedi astudio’n ffurfiol yn y maes. Ar ôl treulio peth amser yn gweithio mewn tafarn, sylweddolais fy mod i eisiau mynd ar drywydd rhywbeth mwy ymarferol ac fe wnes i lanio’ eithaf disymwth ar Gynhyrchu’r Cyfryngau. Roedd cwrs PDC yn apelio’n benodol oherwydd amgylchedd creadigol y ddinas a'r darlithwyr cefnogol sydd wir yn deall y diwydiant.
Mae'r cwrs wedi rhoi cyfleoedd anhygoel i fi weithio ar brosiectau go iawn. Diolch i PDC, rwyf wedi cyfrannu at gynyrchiadau ar gyfer gwyliau fel Green Man ac wedi gweithio ar brosiectau sydd wedi cael eu dangos mewn Diwrnodau Agored. Mae'n galondid gweld sut y gall prosiectau hyn arwain yn uniongyrchol at gysylltiadau o fewn y diwydiant.
Dewch o hyd i'ch cwrsBywyd yng Nghaerdydd a'r dyfodol
Mae'r mynediad at offer, boed yn gamerâu neu’n ystafelloedd golygu, yn gwneud gwahaniaeth enfawr hefyd - rydych chi'n cael gweithio gydag offer proffesiynol heb orfod cyrchu’r cyfan eich hun. Mae'n eich paratoi ar gyfer y math o waith y byddwch chi'n ei wneud ar ôl graddio.
Mae byw yng Nghaerdydd wedi bod yn wych. Mae'n ganolfan greadigol gyda sîn cyfryngau sy'n tyfu, yn gartref i gwmnïau cynhyrchu ac ysgolion actio ac ati. Mae'r ddinas yn hawdd teithio ynddi, ac mae’n hawdd cysylltu â phobl greadigol eraill. Ar ôl graddio, rwy'n gobeithio mynd i weithio ar fy liwt fy hun, ond fyddwn i ddim yn gwrthod gwaith asiantaeth ’chwaith, i gynyddu fy mhrofiad ac ehangu fy mhortffolio.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau?
Mae graddau Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau PDC yn rhoi’r sgiliau ymarferol i ddod yn rhan o’r diwydiant neu gallwch ddewis cwrs seiliedig ar theori sy’n rhychwantu ystod lawn y cyfryngau modern, o newyddiaduraeth brint draddodiadol i flogio, gwneud ffilmiau, radio a chyhoeddi.