GRADDAU PEIRIANNEG SIFIL
Rydym yn ymfalchïo yn ein ehangder o gyrsiau peirianneg sifil sy’n seiliedig ar ofynion diwydiant, felly maen nhw’n rhoi’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ac mae ein cysylltiadau cryf â diwydiant yn golygu y byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ymgysylltu â chwmnïau yn ystod eich astudiaethau.
Gweld Cyrsiau Neilltuwch lle ar Diwrnod Agored/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-academic-staff-engineering-civil-engineering-luan-al-haddad-39957.jpg)
Mae ein cyrsiau israddedig yn rhoi'r hyfforddiant ymarferol ac academaidd priodol ar gyfer gyrfa mewn peirianneg sifil, gan gynnwys dylunio strwythurol, dylunio geodechnegol, rheoli prosiectau, peirianneg priffyrdd a thrafnidiaeth, a dylunio a datblygu cynaliadwy. Mae ein cyrsiau ôl-raddedig yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau beirniadol a dadansoddol, ochr yn ochr ag arbenigedd rheoli, sydd eu hangen i sefydlu neu atgyfnerthu eich gyrfa fel peiriannydd sifil.
Mae ein cyrsiau yn cynnig
-
Mae'r radd BSc (Anrh) Peirianneg Sifil wedi'i hachredu fel un sy'n bodloni'n llawn y sylfaen addysgol ar gyfer Peiriannydd Corfforedig (IEng). Gweler www.jbm.org.uk am ragor o wybodaeth. Mae ein MEng yn bodloni’r gofynion ar gyfer statws Peiriannydd Siartredig yn llawn, tra bod BEng yn gofyn am gyfnod o ddysgu pellach, er enghraifft, astudiaeth ôl-raddedig mewn peirianneg sifil.
-
Mae ein holl gyrsiau Peirianneg Sifil yn cynnig y cyfle i chi gael profiad ymarferol o sawl agwedd ar beirianneg sifil, gan gynnwys tirfesur, profi strwythurol, a dewis deunyddiau. Rydyn ni'n gwerthfawrogi pwysigrwydd dysgu ymarferol, felly rydyn ni'n rhoi cymaint o gyfleoedd â phosib i chi i'ch helpu i baratoi ar gyfer y gweithle. Dewch i gwrdd â’r tîm a fydd yn eich dysgu yn PDC.
-
Mae cyfleusterau peirianneg sifil yn cynnwys labordai newydd ar gyfer strwythurau, deunyddiau a geotechneg. Mae'r cyfleusterau hyn yn ein galluogi i ddangos egwyddorion peirianneg sylfaenol a helpu myfyrwyr i wneud gwaith prosiect ac ymchwil. Rydym yn profi linteli dur, concrit a gwaith maen, ynghyd â deunyddiau strwythurol eraill, i wella dyluniad cynnyrch a darganfod dulliau adeiladu newydd.
Cyrsiau Peirianneg Sifil
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-civil/beng-civil-engineering.png)
Rydym yn cymryd Peirianneg Sifil o ddifrif. O’r gwareiddiadau cynharaf, mae peirianwyr wedi dylunio’r amgylchedd adeiledig ac wedi gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl. Gyda'ch gradd, byddwch yn dod yn rhan o un o broffesiynau hynaf y byd ac yn mwynhau gyrfa sy'n cael effaith barhaol ar ddynoliaeth.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-civil/bsc-civil-engineering.png)
Rydym yn cymryd peirianneg sifil o ddifrif. Byddwch yn dysgu egwyddorion peirianneg sylfaenol ac uwch, yn ogystal â sgiliau TG allweddol sy'n berthnasol i'r diwydiant. Gyda'ch gradd, byddwch yn dod yn rhan o un o'r proffesiynau hynaf yn y byd ac yn mwynhau gyrfa sy'n cael effaith barhaol ar y ddynoliaeth.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-civil/hnc-civil-engineering.png)
Os oeddech chi’n meddwl nad oedd y brifysgol ar eich cyfer chi ond bod y byd gwaith wedi gwneud i chi feddwl eto, efallai mai ein HNC mewn Peirianneg Sifil yw’r ateb i chi. Mae’n gymhwyster galwedigaethol, sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd ac sy’n cael ei gynnig yn rhan-amser tra byddwch yn gweithio.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-civil/meng-civil-engineering.png)
Ar y radd hon mewn Peirianneg Sifil, byddwch yn astudio egwyddorion peirianneg sylfaenol, wedi'u hategu gan fathemateg, iechyd a diogelwch, a chynaliadwyedd. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant ar gyfer dylunio ac adeiladu prosiectau peirianneg sifil. Mae yna gyfleoedd ar gyfer teithiau maes a lleoliadau gwaith hefyd.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-civil/msc-civil-engineering.png)
Y rhaglen MSc yw eich cyfle i sefydlu neu atgyfnerthu eich gyrfa fel Peiriannydd Sifil. Bydd eich astudiaethau'n datblygu sgiliau beirniadol a dadansoddol, a'r arbenigedd rheoli sydd ei angen i reoli prosiectau peirianneg sifil a gweithredu atebion cynaliadwy. Bydd y cwrs yn darparu'r dysgu sy'n ofynnol i symud ymlaen tuag at statws Peiriannydd Siartredig.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-civil/beng-civil-engineering.png)
Ar y radd hon mewn Peirianneg Sifil ac Adeiladu, byddwch yn astudio egwyddorion peirianneg sylfaenol, wedi'u hategu gan fathemateg, iechyd a diogelwch, a chynaliadwyedd. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant ar gyfer dylunio ac adeiladu prosiectau peirianneg sifil. Mae yna gyfleoedd ar gyfer teithiau maes a lleoliadau gwaith hefyd.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-civil/bsc-civil-engineering-foundation-year.png)
Os na chawsoch chi'r graddau roeddech chi eu heisiau, mae PDC yn cynnig blwyddyn sylfaen mewn Peirianneg Sifil, gan baratoi'r ffordd i'r radd BSc (Anrh). Mae'r rhaglen gynhwysfawr hon yn rhoi sgiliau ymarferol a hyfforddiant academaidd i fyfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd ym maes dylunio strwythurol, rheoli prosiectau, peirianneg trafnidiaeth, a datblygu cynaliadwy.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.
Pam PDC?
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/engineering-civil/subject-civil-engineering-student-43767.jpg)
- Mae Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol De Cymru yn ail uchaf ei rhestr yng Nghymru, ac ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr. (Complete University Guide 2026)
- Mae cyrsiau Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr. (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024)
Pam PDC?
Ar y brig
Mae Peirianneg Sifil yn PDC ar y brig yn y DU ar gyfer Deilliannau Graddedigion
Complete University Guide 2026Mae Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol De Cymru yn ail uchaf ei rhestr yng Nghymru, ac ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr. (Complete University Guide 2026)
Mae cyrsiau Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr. (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024)
DYLANWADU AR NEWID
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/161-treforest-facilities/campus-facilities-treforest-civil-engineering-musab-kazi-50190.jpg)
Eich Profiad Myfyrwyr
Astudiwch yng nghanol Pontypridd
Mae ein campws yn Nhrefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.
Diwrnodau Agored i ddod
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/05-event-photography/51-open-days/event-open-day-treforest-50360.jpg)