/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/engineering-civil/subjects-engineering-civil-student-angharad-wrigley.jpg)
Nid oedd fy rhywedd yn rhwystr o gwbl o ran cael swydd peirianneg gyda Mabey Bridge.
Mae ailasesu fy uchelgeisiau wedi golygu fy mod wedi dod o hyd i'm gwir angerdd
Gadawodd Angharad Wrigley yr ysgol ar ôl ei harholiadau TGAU a than bedair blynedd yn ôl roedd yn rhedeg siop bentref fechan yn Nyffryn Gwy. Nawr mae hi'n beiriannydd gwasanaethau technegol a hanner ffordd trwy ei gradd yma.
Pan gyrhaeddodd 30 oed, ar ôl ailasesu ei huchelgeisiau, cofrestrodd Angharad ar gwrs HNC Peirianneg Sifil ac Adeiladu rhan-amser yn y Brifysgol. Gweithiodd yn rhan-amser mewn archfarchnad i ariannu ei hastudiaethau.
Dyma pryd y gwelodd hysbyseb am swydd wag gyda’r gwneuthurwr pontydd dur arbenigol Mabey Bridge, Cas-gwent. Heb unrhyw ddisgwyliad gwirioneddol o gael y swydd, ymgeisiodd Angharad, pe na bai ond er mwyn y profiad cyfweliad.
Dewch o hyd i'ch cwrsChwarae rhan ganolog mewn prosiectau peirianneg mawr
Ddwy flynedd yn ddiweddarach mae Angharad Wrigley wedi sefydlu ei hun fel peiriannydd gwasanaethau technegol yng nghyfleuster Lydney y cwmni.
Mae’n swydd â chyfrifoldeb mewn tîm sy’n brif bwynt cyswllt rhwng y cwmni a’r cleient. Mae'r tîm yn cyrchu manylion technegol prosiectau peirianneg mawr a sicrhawyd, yn eu dadansoddi ac yn sicrhau bod popeth fel y dylai fod, er mwyn caniatáu i'r adran CAD gynhyrchu lluniadau a manylebau’r prosiect.
Dywedodd Angharad: “Nid oedd fy rhywedd yn rhwystr o gwbl o ran cael swydd peirianneg gyda Mabey Bridge. Roedden nhw’n fwy na pharod i’m cymryd yn seiliedig ar fy mrwdfrydedd a’m gallu, gan fy mod i wedi gwneud mor dda yn fy HNC mewn Peirianneg. Roeddwn i’n teimlo’n hyderus iawn ar ôl blwyddyn gyntaf dda ar y cwrs a dywedon nhw y byddai’n well ganddyn nhw gael rhywun ag agwedd barod i ddysgu.”
Ers ymuno â Mabey Bridge, mae Angharad wedi parhau â’i haddysg, gan ennill ei HND ac mae’n gweithio tuag at radd.
Dywedodd: “Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod rhywedd yn broblem yma ac mae dynion a menywod yn cael eu trin yn gyfartal. Nid wyf yn teimlo unrhyw wahaniaethu ac yn sicr nid wyf yn ystyried bod gan rywedd unrhyw arwyddocâd negyddol ar gyfer datblygu fy ngyrfa o fewn y cwmni.
“Mae peirianneg yn broffesiwn eithaf anoracaidd. Mae’n gallu bod yn amgylchedd eithaf tawel, synhwyrol a difrifol ac mae’n braf cael mewnbwn gan fenywod ac i wneud pethau ychydig yn wahanol.”
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Peirianneg Sifil?
Rydym yn ymfalchïo yn ein ehangder o gyrsiau peirianneg sifil sy’n seiliedig ar ofynion diwydiant, felly maen nhw’n rhoi’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ac mae ein cysylltiadau cryf â diwydiant yn golygu y byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ymgysylltu â chwmnïau.