/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/engineering-civil/Bethan-Jones-Wagtail.jpg)
Byddwn yn argymell y cwrs i unrhyw un sydd am ennill gradd uchel ei pharch gyda llawer o ragolygon a lle i symud ymlaen.
Mae pob diwrnod yn her newydd, gyffrous
Graddiodd Bethan Jones, o Bontypridd, gyda BEng (Anrh) Peirianneg Sifil. Mae hi bellach yn gweithio fel peiriannydd adran yn Raymond Brown Construction, lle mae hi wedi’i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ond yn gweithio ledled y DU.
“Fel rheolwr safle, rwy’n cynnal y gweithgareddau o ddydd i ddydd ar y safle, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch, cynllunio a rhaglennu’r gwaith.
Y peth gorau am fy swydd yw nad oes dau ddiwrnod yr un peth. Rwy'n cael gweithio gydag amrywiaeth o bobl ar lawer o brosiectau gwahanol.
Yn ddiweddar, rwyf wedi gweithio ar gynllun amddiffyn rhag llifogydd, cynllun adnewyddu pontydd, gwaith atgyweirio cored ac rwyf ar fin dechrau cynllun amddiffyn rhag llifogydd arall yng Nghaerdydd, lle byddaf yn rheolwr safle.
Mae Peirianneg Sifil yn ddiwydiant gwych i weithio ynddo. Mae'r cyflogau a'r cyfleoedd i symud ymlaen yn eich gyrfa’n wych, ac mae'n broffesiwn uchel ei barch. Uchafbwynt fy ngyrfa hyd yn hyn yw ennill Peiriannydd Graddedig y Flwyddyn gan Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil.
Ni fyddai fy ngyrfa yn bosibl heb fy ngradd Peirianneg Sifil o PDC.
I ddechrau, doeddwn i ddim yn siŵr pa gwrs i astudio yn y Brifysgol. Siaradais â fy ewythr sy'n beiriannydd sifil wedi ymddeol ac roedd yn swnio fel gyrfa gyffrous.
Dewch o hyd i'ch cwrsRoedd y darlithwyr a'r technegwyr bob amser wrth law i'ch helpu i gael y canlyniadau gorau posibl
Elfennau ymarferol a rhannau iechyd a diogelwch y radd Peirianneg Sifil oedd y rhai mwyaf gwerthfawr, yn enwedig yn fy rôl fel contractwr. Yn yr un modd, fe ddysgodd taith arolwg wythnos o hyd i Ynys Wyth y sgiliau hanfodol rwy’n eu defnyddio bob dydd.
Roedd PDC yn amgylchedd cefnogol i ddysgu ynddo. Roedd y darlithwyr a'r technegwyr bob amser wrth law i'ch helpu i gael y canlyniadau gorau posibl.
Yn fy mlwyddyn olaf, cwblheais leoliad gwaith dros yr haf gyda Raymond Brown Construction, a arweiniodd at swydd barhaol ar ôl i mi raddio.
Byddwn yn argymell y cwrs i unrhyw un sydd am ennill gradd uchel ei pharch gyda llawer o ragolygon a lle i symud ymlaen."
Diddordeb mewn Peirianneg Sifil?
Rydym yn ymfalchïo yn ein ehangder o gyrsiau peirianneg sifil sy’n seiliedig ar ofynion diwydiant, felly maen nhw’n rhoi’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ac mae ein cysylltiadau cryf â diwydiant yn golygu y byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ymgysylltu â chwmnïau.