Josh Burkin

Mae dewis astudio peirianneg sifil wedi fy helpu i ddod yn unigolyn graddedig dosbarth cyntaf

Peirianneg Sifil
Graduate, Josh, smiles for a photo after receiving the ICE Wales Cymru Prize for Best Civil Engineering Student

Mae eisoes wedi fy helpu i ennill swydd raddedig. Os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc, rwy'n siŵr y byddwch wrth eich bodd.


Myfyriwr Peirianneg Sifil arobryn

Cafodd Josh Burkin, o Efrog, radd Anrhydedd dosbarth cyntaf BSc (Anrh) Peirianneg Sifil, ac ennill Gwobr ICE Cymru am y Myfyriwr Peirianneg Sifil Gorau. Mae’n gweithio fel Cynllunydd Trafnidiaeth Graddedig yn Parsons Brinckerhoff. 

"Ni fyddaf byth yn edifar am ddewis y radd hon mewn Peirianneg Sifil. Mae eisoes wedi fy helpu i ennill swydd raddedig. Os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc, rwy'n siŵr y byddwch wrth eich bodd. 

Roedd y cwrs yn apelio ataf gan fod gennyf ddiddordeb eisoes mewn dylunio ac adeiladu. Roedd y modiwlau yn cynnwys nifer o fodiwlau dylunio a gwahanol agweddau ar reoli adeiladu. 

Roedd modiwlau hefyd lle buom yn gweithio fel grwpiau ar brosiectau yn yr ardal leol. Roedd y rhain yn fuddiol wrth i ni ddatblygu dyluniadau i gwrdd â briffiau prosiect bywyd go iawn gan ein galluogi i ddeall y broses ddylunio. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

NI FYDDAF BYTH YN EDIFAR AM DDEWIS Y RADD HON MEWN PEIRIANNEG SIFIL.

Josh Burkin

Graddedig Peirianneg Sifil

O'r traethawd hir i nodau'r dyfodol

Cyflawnwyd fy nhraethawd hir gyda Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynllun Priffyrdd yn Ne-ddwyrain Cymru. Cynhaliais arfarniad o atebion arfaethedig gan ddefnyddio Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru. Mi wnes i fwynhau’r prosiect yn fawr iawn a darganfyddais gymhlethdod gwneud penderfyniadau yn ymwneud â buddsoddi mewn trafnidiaeth. 

Y cam nesaf i mi yw astudio gradd Meistr. Yn nes ymlaen, rwy’n anelu at ennill cydnabyddiaeth broffesiynol gyda’r Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant, ac o hynny ymlaen byddaf yn parhau i geisio symud ymlaen!” 

Graddau Ôl-raddedig

Diddordeb mewn Peirianneg Sifil?

Rydym yn ymfalchïo yn ein ehangder o gyrsiau peirianneg sifil sy’n seiliedig ar ofynion diwydiant, felly maen nhw’n rhoi’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ac mae ein cysylltiadau cryf â diwydiant yn golygu y byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ymgysylltu â chwmnïau.