/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/engineering-civil/subjects-engineering-civil-graduate-ngozi-blessing-orji-chukwu-448X695.png)
Mae mynd ar leoliad wedi fy rhoi ar y blaen. Mae cymaint o fanteision i fy ngyrfa a lle rydw i ar hyn o bryd, oherwydd fy mod wedi mynd ar leoliad gwaith.
Sut mae profiadau ymarferol yn llywio peirianwyr y dyfodol
Mynychodd Ngozi Orji-Chukwu Goleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant cyn parhau â’i hastudiaethau ym Mhrifysgol De Cymru. Yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol, fe gyflawnodd leoliad gwaith cyflogedig 15 mis gyda Jubb Consulting Firm. Yn dilyn y lleoliad, cynigiwyd rôl iddi fel myfyriwr-beiriannydd rhan-amser am weddill ei blwyddyn olaf.
Dewisodd Ngozi wneud lleoliad gwaith i ennill profiad ymarferol a gwneud penderfyniad gwybodus ar ei dyfodol mewn peirianneg sifil. Roedd hi eisiau cymhwyso ei gwybodaeth ddamcaniaethol i brosiectau bywyd go iawn ac ehangu ei dealltwriaeth o'r maes.
Yn ystod ei lleoliad, bu’n gweithio ar wahanol gynlluniau priffyrdd a draenio, gan gwblhau rhaglenni a nodiadau technegol. Dysgodd hefyd i ddefnyddio meddalwedd sy'n berthnasol i'r diwydiant, gan gynnwys AutoCAD a Micro Drainage. Roedd ei chyfrifoldebau dyddiol yn cynnwys cefnogi ei thîm gyda chynlluniau draenio a phriffyrdd, mynychu ymweliadau safle, creu dyluniadau â chymorth cyfrifiadur, a chymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddi a chynadleddau.
Roedd y prosiectau y bu’n gweithio arnynt yn amrywiol, yn cwmpasu ffyrdd, ysgolion, a datblygiadau tai. Roedd angen sgiliau gwahanol a dull unigryw gyda phob prosiect, gan ddarparu profiad dysgu parhaus. Roedd amrywiaeth y prosiectau yn un o'r agweddau yr oedd yn ei fwynhau fwyaf, gan ei fod yn caniatáu iddi archwilio gwahanol ddisgyblaethau o fewn peirianneg sifil. Cafodd fudd hefyd o fentoriaeth, gan gael y cyfle i ofyn cwestiynau a dysgu gan beirianwyr profiadol.
Un o uchafbwyntiau ei lleoliad oedd gweld llwybr troed y bu’n helpu i’w ddylunio yn cael ei adeiladu a gallu cerdded drosto. Cyflawniad arwyddocaol arall oedd cael ei henwi’n Beiriannydd Datblygol ICE Cymru yn 2022 am ymchwil a ysbrydolwyd gan ei gwaith ar leoliad.
Roedd ei phrofiad ar leoliad gwaith yn caniatáu iddi ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu effeithiol, rheoli amser, gwaith tîm, a hunanddisgyblaeth. Rhoddodd hwb hefyd i’w hyder yn ei gwaith a’r gwerth a gyflwynodd i’w thîm. Yn ogystal, tyfodd ei phortffolio datblygiad proffesiynol ar gyfer siarteriaeth yn y dyfodol, gan fynychu sesiynau hyfforddi, cynadleddau a fforymau amrywiol.
Fe wnaeth y lleoliad gwaith sicrhau ei bod ymhell ar y blaen yn ei gyrfa, gan ei helpu i wneud penderfyniad gwybodus ar ei harbenigedd mewn peirianneg sifil. Dylanwadodd hefyd ar ei thraethawd hir yn ei blwyddyn olaf, wrth iddi gael sgôr dros 80%. Fe wnaeth y profiad ei galluogi i gyfleu ei sgiliau yn effeithiol i gyflogwyr, gan gyfrannu at sicrhau rôl raddedig mewn cwmni peirianneg byd-eang.
Daeth i wybod am y cyfle am leoliad gwaith trwy LinkedIn, gan gysylltu â gweithiwr yn Jubb Consulting Firm ar ôl gweld neges am unigolyn graddedig diweddar yn ymuno â'r cwmni. Drwy wneud yr ymdrech i rwydweithio, cafodd gyfweliad ac yn y pen draw, ei lleoliad gwaith.
Cafodd Ngozi gefnogaeth gan Wasanaeth Gyrfaoedd PDC, gan gynnwys rhestr gyfredol reolaidd o'r lleoliadau a oedd ar gael a sesiynau adolygu CV. Roedd ei thiwtor prifysgol hefyd yn cyfathrebu’n rheolaidd â hi yn ystod y lleoliad, gan roi arweiniad a chymorth a fu’n werthfawr iddi ar ôl dychwelyd i’r brifysgol.
Wrth ddychwelyd i'r brifysgol ar ôl ei lleoliad gwaith, teimlai'n hyderus yn ei gwybodaeth a'i sgiliau ac roedd ganddi ymdeimlad cliriach o ran cyfeiriad ei gyrfa. Arweiniodd ei phrofiad ar leoliad hefyd at gyfleoedd ymchwil, gan gynnwys papur ar systemau draenio cynaliadwy a enillodd Wobr Peiriannydd Datblygol ICE Cymru yn 2022. Datblygodd yr ymchwil hwn ymhellach a’i wneud yn draethawd hir, gan ennill sgôr anhygoel o 87%.
Mae profiad Ngozi yn dangos gwerth aruthrol lleoliadau gwaith wrth lunio gyrfa lwyddiannus. Mae hi'n credu, os gwneir y gorau o’r cyfle, bod lleoliadau'n darparu cerrig camu amhrisiadwy ar gyfer eich gyrfa. Mae hi'n eu hargymell yn fawr i fyfyrwyr sy'n dal i archwilio eu llwybrau gyrfa mewn peirianneg.
Manteision gwirfoddoli fel myfyriwr
Bu Ngozi hefyd yn gwirfoddoli’n frwd yn ystod ei chyfnod yn PDC, a oedd yn un o’r agweddau mwyaf gwerth chweil ar ei phrofiad yn y brifysgol yn ei barn hi. Cyfrannodd at fentrau amrywiol, gan gynnwys gwasanaethu fel cynrychiolydd y brifysgol yng nghyfarfodydd CCAUC, lle bu’n helpu i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â hil mewn addysg uwch. Roedd y rôl hon yn caniatáu iddi rwydweithio â myfyrwyr o brifysgolion eraill a datblygu sgiliau hanfodol fel cyfathrebu, cydweithio ac arweinyddiaeth.
Yn ogystal, bu’n gweithio fel llysgennad myfyrwyr yn ystod diwrnodau agored, gan gynorthwyo darpar fyfyrwyr a’u helpu i ganfod eu ffordd o gwmpas y campws. Trwy’r cyfleoedd hyn, gwellodd ei sgiliau arwain a gwaith tîm, ehangodd ei rhwydwaith, a chafodd brofiadau a gyfoethogodd ei thaith yn y brifysgol.
Yn gyffredinol, rhoddodd ei hamser yn PDC, trwy ei lleoliad gwaith a’i hymdrechion gwirfoddoli, brofiad cyflawn a chyfoethog iddi a gyfrannodd yn sylweddol at ei thwf personol a phroffesiynol.
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Peirianneg Sifil?
Rydym yn ymfalchïo yn ein ehangder o gyrsiau peirianneg sifil sy’n seiliedig ar ofynion diwydiant, felly maen nhw’n rhoi’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ac mae ein cysylltiadau cryf â diwydiant yn golygu y byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ymgysylltu â chwmnïau.