Byddwch Yn Rhan O'r Cyffro

Saesneg

Mae Saesneg fel pwnc yn amlygu cymhlethdodau iaith ac yn datgloi pŵer trawsnewidiol adrodd straeon. Mae’n fwy na chasgliad o straeon yn unig, dyma lle mae geiriau’n dod yn fyw.

Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
A student is sat smiling in a library, they are working on a computer.

O Shakespeare a'r Saesneg i ysgrifennu cyfryngau, bydd ein graddau Saesneg yn eich helpu i ddatblygu a gwella'ch mynegiant, ysgrifennu beirniadol a'ch sgiliau meddwl.


Pam Saesneg yn PDC?

Profiad Ymarferol

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn ennill sgiliau a fydd yn eich helpu i lwyddo mewn unrhyw weithle, ac yn ymgysylltu â heriau a osodwyd gan sefydliadau allanol i roi’r rhain ar waith.

Cysylltiadau Diwydiant

Mae ein cysylltiadau yn golygu y gallwch fynychu lleoliadau gwaith i helpu eich CV i sefyll allan - mae sefydliadau yn cynnwys Llenyddiaeth Cymru, The Big Issue, cylchgrawn Buzz, yn ogystal ag ysgolion a llyfrgelloedd.

TESOL

Mae’r modiwlau hyn yn cynnig ymarfer dwys mewn cynllunio gwersi, addysgu a dylunio’r cwricwlwm, yn ogystal â chymhwyster y gallwch ei ddefnyddio unrhyw le yn y byd – heb unrhyw gost ychwanegol. 

PAM PRIFYSGOL DE CYMRU?

Two students studying in the Treforest library.

PAM PRIFYSGOL DE CYMRU?

79%

o'n hallbynnau ymchwil yn cael eu hystyried gyda’r gorau yn y byd (4*) neu'n rhagorol yn rhyngwladol (3*). Barnwyd bod hanner ein hymchwil gyda’r gorau yn y byd o ran Effaith. 


Cyrsiau Saesneg

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol - BA (Anrh)

Ymgollwch ym myd geiriau ar y cwrs hwn, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer storïwyr angerddol a phobl sy’n caru llenyddiaeth.


Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BA (Anrh)

Bydd y cwrs Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol hwn yn eich galluogi i archwilio meysydd gan gynnwys Saesneg, Hanes a’r Cyfryngau, ochr yn ochr â rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i chi symud ymlaen i ddilyn cwrs Gradd a chael y cyfle i gyflawni eich dyheadau.


Astudiwch yng nghanol Pontypridd

Mae ein campws yn Nhrefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


Sunlight breaking over the Accommodation Hub.

The University Acccommodation Hub, Pontypridd Campus.

Aerospace Centre, Pontypridd Campus.

Mountain Halls building front.

A view of the Students' Union building front at Treforest.

Diwrnodau Agored i ddod

Open Day visitors walking through the Treforest campus. There is a large red open day banner behind them.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru