Psychology Plus: Cydnabyddiaeth
Mae'r adran ganlynol yn canolbwyntio ar y cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr ymgymryd â hyfforddiant, profiad gwaith neu gyflogaeth â thâl gyda sefydliad y tu allan i Brifysgol De Cymru.
Gweld graddau Seicoleg Psychology Plus/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/00-miscellaneous/misc-person-using-laptop.jpg)
Gallai hyn gynnwys profiad o weithio gyda gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol a grwpiau cleientiaid, ymgymryd â hyfforddiant ar-lein y GIG neu gefnogi pobl ifanc mewn angen.
Cyfleoedd Lleoliad
Mae'r adnodd e-ddysgu GIG hwn yn darparu hyfforddiant ar-lein mewn meysydd sy'n ymwneud ag iechyd a seicoleg. Ar hyn o bryd mae 9 rhaglen sy'n berthnasol i seicoleg, gyda mwy yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd.
O ymwybyddiaeth sylfaenol i hyfforddiant mwy cynhwysfawr, mae'r rhaglenni hyn yn ymdrin â phynciau gan gynnwys; Lefelau Diogelu Plant ac Oedolion; Delio â Thrais ac Ymosodedd a thechnegau mewn Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol. Ar ôl cwblhau rhaglen yn llwyddiannus dyfernir tystysgrif i fyfyrwyr.
Hyd: Yn dibynnu ar y rhaglen
Adeg pryd mae’r cyfle ar gael: Unrhyw bryd
Argaeledd Lleoedd: Diderfyn
Gyrfaoedd: Proffesiynau Cymdeithasol a Lles, Seicoleg Cwnsela, Seicoleg Addysg
Mae'r cyfle hwn yn rhoi'r cyfle i chi gael effaith wirioneddol ar fywydau pobl ifanc yn eu harddegau iau rhwng 11-16 oed sydd mewn perygl o ymddieithrio oherwydd materion personol.
Mae'r rôl hon yn ddefnyddiol iawn i'r rhai sydd am gael profiad o weithio ym meysydd datblygiad personol, cwnsela, therapi, lleoliadau addysgiadol a gwaith ieuenctid. Mae yna gyfleoedd ymchwil y gellir eu dilyn trwy'r lleoliad hwn.
Fel rhan o'r lleoliad hwn byddwch yn dysgu sgiliau hyfforddi a mentora craidd y gellir eu trosglwyddo i bob cynghrair gwaith un-i-un. Byddwch yn defnyddio offer asesu sy'n nodi hunan-gysyniad a hunan-barch. Yn ogystal, byddwch yn archwilio’r defnydd o dechnegau, adnoddau a dulliau gweithredu i rymuso pobl ifanc i gymryd camau cadarnhaol tuag at les, ymgysylltu a dyfodol gwell. Bydd gofyn i chi gael gwiriad DBS gan fod y lleoliad hwn yn ymwneud â gweithio gyda phlant.
Hyd: O leiaf 1 awr yr wythnos am 10 wythnos mewn lleoliad. Mae hyfforddiant yn 2.5 diwrnod.
Adeg pryd mae’r cyfle ar gael: Tymor y Gwanwyn a'r Haf
Argaeledd: 1 Carfan o hyd at 30 – trefniadau hyblyg ar ôl hyfforddiant.
Gyrfaoedd: Cwnsela, Seicoleg Addysg, Gwaith Ieuenctid
Mae Gwasanaethau Cymorth React yn darparu cymorth preswyl ac adsefydlu 24 awr ar gyfer oedolion agored i niwed rhwng 18 a 64 oed.
Maent yn defnyddio Model Adfer 3 Cham sy'n cefnogi ac yn annog unigolion i ailddysgu a datblygu'r sgiliau byw bob dydd angenrheidiol a gweithgareddau a fydd yn gwella eu hymdeimlad o hunanwerth, gan eu galluogi i symud tuag at annibyniaeth.
Mae cyfleoedd i weithio gyda React fel Gweithwyr Cefnogi a fyddai'n chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu safon uchel o ofal a chymorth i oedolion agored i niwed mewn amrywiaeth o amgylcheddau.
Hyd: Yn dibynnu ar leoliad
Adeg pryd mae’r cyfle nesaf ar gael: Trwy'r flwyddyn
Argaeledd: Yn dibynnu ar leoliad
Gyrfaoedd: Seicoleg Glinigol, proffesiynau Cymdeithasol a Lles, Nyrsio
Dylai pob myfyriwr anelu at wneud profiad gwaith rywbryd yn ystod eu cwrs ac mae gwirfoddoli yn opsiwn gwych. Yn aml iawn mae’n hyblyg, gan weithio o amgylch eich amserlen ac ymrwymiadau personol eraill. Bydd gwirfoddoli yn cynyddu eich sgiliau trosglwyddadwy sy'n hanfodol i'w portreadu wrth wneud cais am swydd i raddedigion.
Gall hefyd roi'r opsiwn i chi roi prawf ar lwybr gyrfa sydd gennych mewn golwg a meithrin eich cysylltiadau proffesiynol ar yr un pryd.
Mae Lucy John, Partner Lleoliad Gwaith o fewn Gyrfaoedd PDC, yn gweithio gyda llawer o sefydliadau trydydd sector i hysbysebu eu cyfleoedd gwirfoddol.
Mae'r dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ac mae'n cynnwys opsiynau sy'n ymwneud â:
- Iechyd meddwl,
- anableddau,
- cynhwysiant cymdeithasol,
- oedolion agored i niwed,
- plant a phobl ifanc,
- cefnogaeth troseddwyr a thystion trosedd, a
- rhai mewn angen gan gynnwys o fewn y GIG.
Os hoffech ragor o wybodaeth, neu gymorth ychwanegol i ddod o hyd i gyfle, cysylltwch â Lucy yn uniongyrchol.
Gallwch hefyd ddod o hyd i lawer o wybodaeth trwy Gyrfaoedd PDC gan gynnwys cyngor ar wneud cais am gyfleoedd, digwyddiadau ar y campws, dewisiadau gyrfa, meithrin sgiliau ac apwyntiadau cynghorydd gyrfa.
Hyd: Yn dibynnu ar y sefydliad
Adeg pryd mae’r cyfle ar gael: Yn dibynnu ar y sefydliad
Argaeledd Lleoedd: Yn dibynnu ar y sefydliad
Gyrfaoedd: Seicoleg Glinigol, Seicoleg Addysg, proffesiynau Cymdeithasol a Lles