Graddau Troseddeg
Rydym yn cynnig cyfres amrywiol o gyrsiau troseddeg gydag ystod eang o bynciau i’w hastudio, o ryfela gangiau, diwylliannau gynnau a chyfiawnder ieuenctid, i’r ffordd y caiff trosedd ei adrodd yn y cyfryngau.
Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod AgoredMae ein cysylltiadau rhagorol ag asiantaethau cyfiawnder troseddol yn golygu ein bod yn gwahodd siaradwyr gwadd i siarad â chi am eu gwaith. Wedi'ch addysgu gan ymchwilwyr gweithgar ac arbenigwyr yn y diwydiant, byddwch yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen mewn amrywiaeth eang o swyddi yn y diwydiant.
Graddau Troseddeg Uchafbwyntiau
Pam Prifysgol De Cymru
Canfuwyd bod 71% o’n hymchwil Troseddeg yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.
Pam Prifysgol De Cymru
Mae mwy nag 80%
o’n heffaith ymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.
Cyrsiau Troseddeg
Dyluniwyd yr MSc Gweithio gydag Oedolion a Phobl Ifanc sy’n Troseddu ar y cyd â phartneriaid yn y diwydiant ac mae’n cynnig pwyslais arbenigol ar theori ac ymarfer rheoli troseddwyr.
Bydd myfyrwyr yn archwilio materion troseddegol manwl ac yn cwestiynu a gwerthuso’n feirniadol ddadleuon ynglŷn â syniadau o drosedd a chyfiawnder mewn ffyrdd athronyddol a chysylltiedig ag ymarfer, ac o amrywiaeth o wahanol safbwyntiau.
Treiddiwch yn ddwfn i achosion a chanlyniadau troseddau, datgelwch waith mewnol y system cyfiawnder troseddol a rhowch eich sgiliau ar brawf gydag achosion bywyd go iawn.
Rydym yn credu mewn dysgu drwy wneud. Yn ein BSc Troseddeg gyda Chyfiawnder Ieuenctid, byddwch yn dysgu'r ddamcaniaeth, ond byddwch hefyd yn dysgu sut i'w chymhwyso at achosion byw, achosion oer ac astudiaethau achos o'r byd go iawn, felly byddwch yn gorffen eich astudiaethau yn barod i weithio.
Ewch ati i ddysgu am fyd cymhleth ymddygiad troseddol yn ein cwrs, sy'n cyfuno astudiaethau troseddeg gyda seicoleg.
Eich Profiad Myfyrwyr
Astudiwch yng nghanol Pontypridd
Mae ein campws yn Nhrefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.