Amelia Bisby

Troi diddordeb angerddol oedd gen i yn ystod plentyndod yn yrfa

Troseddeg
person holding ipad in front of hydra simulation centre

Roedd brwdfrydedd fy nheulu dros PDC yn ddigon i fy argyhoeddi.


Dewis astudio Troseddeg yn PDC

Dechreuodd fy niddordeb mewn Troseddeg pan oeddwn tua wyth mlwydd oed, pan ges i fy nghyfareddu gan raglen ddogfen am drosedd go iawn. Datblygodd y diddordeb cynnar hwnnw yn angerdd a lywiodd fy nhaith addysgol. Tref fechan roedd fy ysgol yn ei gwasanaethu a doedd hi ddim yn cynnig Troseddeg fel pwnc Safon Uwch, ond gwnes i blismona proffesiynol yn y coleg, ac fe gadarnhaodd hynny fy awydd i astudio Troseddeg. Pan ddaeth hi'n bryd dewis prifysgol, roedd brwdfrydedd fy nheulu  dros Brifysgol De Cymru (PDC) yn ddigon i fy argyhoeddi mai dyna lle’r oeddwn am fod. Ers 2020, mae PDC wedi bod yn brifysgol ddelfrydol i fi. 

Gwnaeth mynd i sawl diwrnod agored gadarnhau bod PDC yn gweddu’n berffaith i fi. Roedd y cyfuniad o'r tŷ lleoliad troseddau, cyfleuster efelychiadau Hydra, a'r uned achosion heb eu datrys yn un anodd ei guro. Dim ond yn rhannol roedd prifysgolion eraill yn cynnig y cyfleusterau hyn, tra bo gan PDC y cyfan. Roedd y darlithwyr yn ysbrydoledig, ac roedd cymuned y campws yn teimlo'n groesawgar ac yn fywiog. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

ROEDD Y CYFUNIAD O'R TŶ LLEOLIAD TROSEDDAU, CYFLEUSTER EFELYCHIADAU HYDRA, A'R UNED ACHOSION HEB EU DATRYS YN UN ANODD EI GURO.

Amelia Bisby

Myfyriwr Troseddeg

Bywyd fel myfyriwr 

Yn ystod fy astudiaethau, rwyf wedi cael cyfle i weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan gynnwys lleoliadau a sesiynau rhyngweithiol gyda'r heddlu a swyddogion prawf. Mae fy mhrosiect troseddeg gymhwysol wedi bod yn un o’r uchafbwyntiau. Fe wnaethon ni gynnal arolwg ymhlith myfyrwyr ar ddiogelwch ar gampws, gan fynd i'r afael â materion fel cerdded yn y tywyllwch rhwng darlithoedd. Mae'n waith ymarferol craff sydd wir wedi cael effaith. 

Mae byw ar y campws hefyd wedi bod yn brofiad anhygoel, ac wedi meithrin ymdeimlad cryf o gymuned. Wrth edrych tua’r dyfodol, fy nod yw arbenigo mewn cyfiawnder ieuenctid, yn enwedig cefnogi pobl ifanc ag anawsterau dysgu yn ystod eu hadsefydlu. 

Mae PDC wedi rhoi'r hyder a'r sgiliau i fi ddilyn gyrfa mewn Troseddeg, ac allwn i ddim bod wedi dewis lle gwell i astudio. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Troseddeg?

Rydym yn cynnig cyfres amrywiol o gyrsiau troseddeg gydag ystod eang o bynciau i’w hastudio, o ryfela gangiau, diwylliannau gynnau a chyfiawnder ieuenctid, i’r ffordd y caiff trosedd ei adrodd yn y cyfryngau sy’n eich galluogi i ddewis modiwlau sy’n adlewyrchu eich diddordebau.