/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/44-alumni/profile-alumni-criminology-euan-thomas--56850.jpg)
Roedd cael swydd fel swyddog carchar yn syth ar ôl darlith yn ddechrau annisgwyl ond gwych i fy ngyrfa.
Dewis astudio Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru
Gwnaeth cwrs Troseddeg PDC gyflwyno’r theori a’r profiad ymarferol sydd eu hangen ar gyfer fy ngyrfa mewn cyfiawnder ieuenctid. Ychydig o brifysgolion yn y DU sy'n cynnig cwrs mor arbenigol, sy'n golygu bod PDC yn brifysgol wych i’w dewis.
Gyda nod clir o weithio gyda phlant yn y maes cyfiawnder ieuenctid yn sail iddi, roedd y radd hon yn cynnig llwybr ardderchog i dwrio’n ddyfnach i’r maes. Roedd y cyfleoedd gwych i rwydweithio yn werthfawr iawn – ac roedd cael swydd fel swyddog carchar yn syth ar ôl darlith yn ddechrau annisgwyl ond gwych i fy ngyrfa.
Gwnaeth cefnogaeth y darlithwyr wahaniaeth enfawr; maen nhw’n arbenigwyr yn eu maes ac maen nhw wir am i’w myfyrwyr lwyddo. Roedd strwythur rhyngweithiol y cwrs, a’r dulliau asesu amrywiol, yn sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu ffynnu. Mae’r cydweithio ag adrannau fel Gwyddoniaeth Fforensig a'r Gyfraith wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o sut mae gwahanol ddisgyblaethau yn croestorri yn y system cyfiawnder troseddol.
Dewch o hyd i'ch cwrsBywyd ar ôl graddio a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol
Ers graddio, rwyf wedi symud yn fy mlaen o fod yn swyddog carchar i fod yn ymarferydd cyfiawnder ieuenctid ac rwy'n hyfforddi i fod yn weithiwr cymdeithasol. Mae'r radd hon wir yn agor drysau. Mae'r amgylchedd croesawgar a chefnogol yn PDC yn hybu twf, ac fe ganiataodd fi i wneud camgymeriadau a dysgu’n hyderus.
Os ydych chi'n ystyried y cwrs hwn, ewch amdani – wnewch chi ddim difaru. Mae'n hynod berthnasol i yrfa mewn cyfiawnder ieuenctid ac yn cynnig cyfleoedd na fyddech chi wedi’u dychmygu. Gwnaeth ymweld â PDC gadarnhau i fi mai hi oedd y brifysgol iawn i fi, diolch i'r awyrgylch cefnogol a chyfeillgar. Manteisiwch ar y cyfan sydd ar gael - bydd yn cael effaith enfawr ar eich dyfodol.
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Troseddeg?
Rydym yn cynnig cyfres amrywiol o gyrsiau troseddeg gydag ystod eang o bynciau i’w hastudio, o ryfela gangiau, diwylliannau gynnau a chyfiawnder ieuenctid, i’r ffordd y caiff trosedd ei adrodd yn y cyfryngau sy’n eich galluogi i ddewis modiwlau sy’n adlewyrchu eich diddordebau.