Digwyddiadau Croeso

GŵylGroeso PDC

Yn galw ar bob myfyriwr NEWYDD sy'n dechrau ym mis Medi! Fe'ch gwahoddir i ymuno â ni yn yr ŴylGroeso.

Cychwyn Arni
A group of students sat in the sun watching a music performance on stage at Treforest Welcome Fest

GŵylGroeso—a gyflwynir i chi gan Brifysgol De Cymru ac Undeb y Myfyrwyr—yw’r ffordd berffaith i gychwyn eich taith yn PDC!


student-25

YR HYN SY'N DIGWYDD YR WYTHNOS HON YN GŴYLGROESO PDC 2024

• Cerddoriaeth fyw ar lwyfan
• Set DJ
• Gostyngiadau ar fwyd caffi a bwyd stryd
• Tatŵs gliter
• Stondinau gwybodaeth
• Cofrestru ar gyfer Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr
• Rhoddion a nwyddau gan stondinwyr lleol


Dewch i ymuno yn yr hwyl

  • Campws Casnewydd (llawr gwaelod): 11am – 4pm.
  • Parc Chwaraeon, Nantgarw (derbynfa ar y llawr gwaelod): 12pm - 2pm.

  • Campws Atriwm Caerdydd (llawr gwaelod): 11am – 4pm.
  • Campws Glyn-taf (Caffi Zone, Glyn-taf Isaf): 12pm – 2pm.

  • Trefforest, Campws Pontypridd (Undeb y Myfyrwyr, ParthFfit a Chaffi Stilts): 11am – 4pm.

BETH YDW I'N EI WNEUD? LLE YDW I'N MYND?

  • Does dim angen cofrestru, dilynwch yr arwyddion GŵylGroeso a sŵn y gerddoriaeth!
  • Os nad ydych chi'n hoffi cerddoriaeth uchel a mannau prysur, beth am gyrraedd 15 munud cyn yr amser cychwyn swyddogol i fwynhau'r amser tawel.  Cysylltwch ag [email protected] os oes gennych unrhyw ofynion penodol a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cefnogi.
  • Mae gostyngiadau ar fwyd ar sail y cyntaf i'r felin, felly peidiwch â'i gadael hi'n rhy hwyr i gyrraedd y digwyddiad.  Ni fydd gwerthiannau am arian parod, derbynnir taliadau â cherdyn yn unig.
  • Mae pawb yn newydd ac yn awyddus i wneud ffrindiau felly mae croeso i chi aros a sgwrsio â phobl
  • Peidiwch ag anghofio sganio'r cod QR i gael eich cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill talebau Amazon a rhoi adborth i ni ar ddigwyddiadau GŵylGroeso