Croeso i Fywyd Myfyrwyr Prifysgol
Rydych ar fin ymuno â ni i ddechrau eich gradd, ac ni allwn aros i gychwyn ar yr antur gyffrous hon gyda chi!
Paratoi am Fywyd Prifysgol Paratoi i ddysguMae llawer i'w wneud cyn i chi ddod i'r brifysgol, yn enwedig os mai dyma'ch tro cyntaf fel myfyriwr. Ond gydag ychydig o waith paratoi ymlaen llaw, gall eich newid i fywyd prifysgol fod mor ddi-dor a di-straen â phosib.
Paratoi am Fywyd Myfyrwyr
Paratoi am Fywyd PrifysgolParatoi am Fywyd Academaidd
Paratoi i DdysguSymud i Mewn
Efallai mai dod i'r brifysgol yw'r tro cyntaf i chi gael profiad o fyw ar eich pen eich hun - rhagolwg cyffrous, ond brawychus braidd. Fodd bynnag, mae'r sgiliau a'r annibyniaeth a ddatblygwch ar hyd y daith hon yn wirioneddol amhrisiadwy.
Mae ein llety ar draws De Cymru yn hygyrch, yn fforddiadwy ac mae ganddo bopeth sydd ei angen arnoch i setlo i leoliad newydd a chychwyn ar eich taith fel myfyriwr. Yma, byddwch yn gallu gwneud ffrindiau newydd, ychwanegu cyffyrddiadau cartrefol i'ch ystafell a chael y rhyddid i ddilyn eich trefn eich hun.
Rydyn ni wedi llunio rhestr bacio i’ch helpu i fod yn drefnus a rhai awgrymiadau ar gyfer setlo yn eich cartref newydd.
Arian Arian Arian
Mae'n gyffrous pan fydd eich taliad benthyciad myfyriwr cyntaf yn glanio yn eich cyfrif banc, ond peidiwch ag anghofio bod angen i chi ei reoli'n dda trwy gydol pob tymor fel nad ydych chi mewn sefyllfa ludiog yn y pen draw.